Neidio i'r prif gynnwy

Ymagweddau ag ysgogiad cymhellion i hyrwyddo teithio llesol i'r ysgol

Mae gan ymagweddau ag ysgogiad cymhellion i hyrwyddo teithio llesol i’r ysgol sail dystiolaeth anghyson. 17, 31, 64
 

Ymyrraeth:Asesodd tair astudiaeth o ansawdd gwael effeithiolrwydd ymagweddau wedi eu hysgogi gan gymhellion i annog teithio llesol ymysg plant ysgol. Gwerthusodd dwy astudiaeth gynlluniau yn rhoi cymhelliant cyrhaeddiad uchaf unigol a/ neu ddosbarth o ran teithio llesol. Roedd y cymhellion yn cynnwys sticeri, bathodynnau, tystysgrifau, gwobrau neu gael eu cynnwys mewn raffl wythnosol am dalebau rhodd. Asesodd y drydedd astudiaeth effeithiolrwydd ymyrraeth yn seiliedig ar dechnoleg oedd yn defnyddio cystadlaethau lle’r oedd ysgolion yn cystadlu yn erbyn ei gilydd, gyda’r ysgol fuddugol yn cael cyllid i’w wario ar gyfarpar chwaraeon, llyfrau, neu adnoddau. Roedd yr ysgolion hefyd yn gallu cystadlu yn erbyn grwpiau eraill oedd yn cymryd rhan yn yr ymyrraeth yn cynnwys gweithleoedd lleol ar gyfer gwobrau wythnosol wedi eu rhoi gan fusnesau lleol. Yn ogystal â defnyddio cymhellion, roedd yr astudiaeth hon hefyd yn defnyddio cyfres o ddigwyddiadau hyrwyddo rheolaidd i hyrwyddo diddordeb yn y cynllun ac i annog cyfranogiad.

Ansawdd y dystiolaeth: 
Roedd yr astudiaethau gafodd eu cynnwys o ansawdd gwael ac roedd y canlyniadau’n anghyson, gydag un yn awgrymu bod yr ymyrraeth wedi cynyddu cerdded i’r ysgol, ond heb adrodd a oedd yr effaith yn arwyddocaol yn ystadegol.

Cymhwysedd:
Cynhaliwyd yr astudiaethau gafodd eu cynnwys yn y DU i gyd, sy’n awgrymu y gallai’r ymyrraeth fod â chymhwysedd i Gymru.

Os byddwch yn parhau â’r ymyrraeth yma:
Awgrymir bod angen ymchwil gadarn bellach a gwerthusiad trylwyr o’r effaith.