Ymyrraeth:
Asesodd un astudiaeth o ansawdd gwael effeithiolrwydd diwrnod neilltuol teithio llesol gweithredol oedd yn dathlu rhaglen llwybrau diogel i’r ysgol ar lefel talaith yn UDA, wedi ei gyfuno â strategaethau ychwanegol ar lefel ysgol i hyrwyddo teithio llesol mewn un ysgol. Cafodd y diwrnod teithio llesol ei hyrwyddo ar draws y dalaith trwy’r cyfryngau, ond defnyddiodd yr ysgol ymyrraeth strategaethau ychwanegol i annog teithio llesol i’r ysgol ar y diwrnod teithio llesol. Roedd y rhain yn cynnwys cyhoeddiadau rheolaidd yn yr ysgol yn y bore, nodiadau ysgrifenedig i’r rhieni, negeseuon ffôn wedi eu recordio i gartrefi’r myfyrwyr a rhoi sticer cyfranogiad i’r rheiny oedd wedi teithio’n llesol i’r ysgol ar ddiwrnod y digwyddiad.
Ansawdd y dystiolaeth:
Roedd ansawdd yr astudiaeth yn wael ond canfuodd gynnydd oedd yn arwyddocaol yn ystadegol mewn teithio llesol yn ysgol yr ymyrraeth o’i chymharu ag ysgolion rheoli ar ddiwrnod y digwyddiad.
Cymhwysedd:
Cynhaliwyd yr ymyrraeth yn UDA, felly dylid ystyried archwiliad pellach sy’n benodol i gyd-destun.
Os byddwch yn parhau â’r ymyrraeth yma:
Awgrymir bod ymchwil gadarn bellach a gwerthusiad trylwyr yn cael eu cynnal i fynd i’r afael â’r bwlch yn y sail dystiolaeth.