Neidio i'r prif gynnwy

Mentrau sydd yn debyg i raglenni llwybrau diogel i'r ysgol

Gallai mentrau sydd yn debyg i raglenni llwybrau diogel i’r ysgol gynyddu teithio llesol i’r ysgol ond mae’r dystiolaeth o ansawdd gwael yn bennaf. 5, 10, 12, 14, 19, 22, 23, 37, 38, 40, 48, 50, 51, 52, 64, 65, 67, 72, 73, 77, 78, 86, 87

 

Ymyrraeth:
Archwiliodd dwy ar hugain o astudiaethau (naw o ansawdd cymedrol a 13 o ansawdd gwael) effeithiolrwydd y rhaglen Llwybrau Diogel i’r Ysgol (SRTS) neu fentrau aml-gydran tebyg. Mae SRTS yn rhaglen genedlaethol yn hyrwyddo opsiynau diogel ar gyfer cerdded a beicio i’r ysgol yn UDA. Roedd yr ymyriadau yn y categori hwn yn cynnwys newidiadau polisi ar lefelau lleol/ rhanbarthol ac uwchraddio seilwaith ffisegol, ynghyd â strategaethau newid ymddygiad i wella mynediad at deithio llesol ac agweddau tuag ato ymysg plant sydd yn mynd i’r ysgol. Roedd y rhain yn cynnwys cyllid/ grantiau ar gyfer ysgolion; gwelliannau i lwybrau beicio a cherdded; gorfodi parthau lleihau cyflymder, arwyddion traffig a pharthau gollwng o’r car; gosod rheseli beiciau, loceri mewn ysgolion a chysgodfannau; addysg diogelwch; cwricwlwm; offer; trefnu diwrnodau hyrwyddo a digwyddiadau hyrwyddo; a rhoi cymhellion i ymgymryd â theithio llesol. Mae mentrau o’r fath hefyd yn cynnwys cyflwyno amrywiaeth o fentrau teithio i’r ysgol cysylltiedig, fel bysiau cerdded, neu hyrwyddo beicio. Roedd y rhan fwyaf o’r astudiaethau (yn UDA a ddim yn UDA) yn werthusiadau sawl ysgol, mawr yn bennaf (ysgolion cynradd a/neu uwchradd) gydag un astudiaeth yn UDA yn gwerthuso 125 o brosiectau SRTS ar draws 350 o ysgolion. Archwiliodd bob un yn UDA y rhaglen SRTS, gyda rhai’n ei chymharu â rhaglenni eraill neu gydrannau ychwanegol.

Ansawdd y dystiolaeth:
Dangosodd y rhan fwyaf o’r astudiaethau effaith o blaid yr ymyrraeth, ond roedd llawer heb adrodd a oedd eu canfyddiadau yn arwyddocaol yn ystadegol. Roedd y rhan fwyaf o’r astudiaethau o ansawdd gwael hefyd.

Cymhwysedd:
Cynhaliwyd saith astudiaeth yn UDA, pump yn y DU, pedair yn Awstralia, dwy yng Nghanada, dwy yn Denmarc ac un yn Seland Newydd ac Iwerddon. Felly, gallai’r ymyrraeth fod â chymhwysedd rhannol i Gymru, ond dylid ystyried archwiliad pellach yn benodol i gyd-destun.

Os byddwch yn parhau â’r ymyrraeth yma:
Awgrymir bod angen ymchwil gadarn bellach a gwerthusiad trylwyr o effaith.