Neidio i'r prif gynnwy

Gall ymgyrchoedd cyfryngau cenedlaethol sy'n targedu gweithwyr fod yn effeithiol

Gallai ymgyrchoedd cenedlaethol yn y cyfryngau yn targedu gweithwyr fod yn effeithiol yn cynyddu teithio llesol i’r gwaith. 58, 59

 

Ymyrraeth:
Edrychodd dwy astudiaeth o ansawdd cymedrol ar ymgyrchoedd cenedlaethol yn y cyfryngau yn targedu gweithwyr. Gwerthusodd y ddau Diwrnod Cerdded i’r Gwaith Awstralia, ond mewn blynyddoedd gwahanol. Mae ymgyrch Diwrnod Cerdded i’r Gwaith y cyfryngau yn ddigwyddiad blynyddol yn Awstralia lle mae’r cyhoedd yn cael eu hannog i gerdded neu feicio i’r gwaith.

Ansawdd y dystiolaeth:
Roedd y ddwy astudiaeth o ansawdd cymedrol a chanfuwyd effaith arwyddocaol ar ganlyniadau teithio llesol (cerdded wedi ei gyfuno â thrafnidiaeth gyhoeddus, a chymudo gweithredol sydd yn gwella iechyd).

Cymhwysedd:
Cynhaliwyd y ddwy astudiaeth yn Awstralia felly mae angen ymchwilio cymhwysedd y canfyddiadau hyn i Gymru ymhellach.

Os byddwch yn parhau â’r ymyrraeth yma:
Awgrymir bod archwiliad manwl o’r sail dystiolaeth yn cael ei chynnal, gan ystyried cyd-destun yr ymyrraeth, i gefnogi dylunio a gweithredu. Dylid cynnal gwerthusiad trylwyr o effaith hefyd.