Ymyrraeth:
Nodwyd un astudiaeth o ansawdd gwael oedd yn canolbwyntio ar bolisïau parcio yn y gweithle a theithio llesol. Roedd yr ymyrraeth yma’n archwilio a oedd parcio ‘am ddim’, ‘â thâl’ neu ‘ddim parcio’ mewn gweithleoedd gwahanol yn effeithio ar ymddygiad cymudo, a’r ffordd yr oedd y newidiadau i’r polisïau hyn yn effeithio ar deithio llesol o ganlyniad i hynny
Ansawdd y dystiolaeth:
Canfu’r ymyrraeth nad oedd unrhyw effaith arwyddocaol i deithio llesol mewn gweithleoedd oedd yn newid o barcio ‘am ddim’ i barcio ‘â thâl’ neu ‘ddim’ parcio. Fodd bynnag, roedd llacio polisïau parcio yn gysylltiedig â chyfran uwch o deithiau’n cael eu gwneud gan gerbydau modur.
Cymhwysedd:
Mae’r canfyddiadau o ymyrraeth yn y DU ac felly’n debygol o fod â chymhwysedd i gyd-destun Cymru.
Os byddwch yn parhau â’r ymyrraeth yma:
Awgrymir bod ymchwil gadarn bellach a gwerthusiad trylwyr yn cael ei gynnal i fynd i’r afael â’r bwlch yn y sail dystiolaeth.