Ymyrraeth:
Nodwyd tair astudiaeth (un o ansawdd da, dwy o ansawdd gwael) ar fentrau newid ymddygiad yn y gweithle i gynyddu teithio llesol. Roedd hyd yr ymyriadau’n amrywio o ddeg wythnos i chwe mis ac yn cynnwys cydrannau gwahanol, fel: dosbarthu deunydd hyrwyddo ac addysgol yn ymwneud â theithio llesol, ysgogi trwy SMS ac e-bost, a hyfforddi hyrwyddwyr ‘Cerdded i’r Gwaith’.
Ansawdd y dystiolaeth:
Roedd y canlyniadau ac ansawdd yr astudiaethau oedd wedi eu cynnwys yn gymysg.
Cymhwysedd:
Mae’r canfyddiadau o ymyriadau a gynhaliwyd yn y DU ac yn debygol o fod â chymhwysedd i gyd-destun Cymru.
Os byddwch yn parhau â’r ymyrraeth yma:
Awgrymir bod ymchwil gadarn bellach a gwerthuso’n cael ei gynnal.