Neidio i'r prif gynnwy

Dulliau

Cynhaliwyd chwiliad systematig o ffynonellau tystiolaeth cadarn, dibynadwy (ffynonellau sy’n defnyddio dulliau priodol ac wedi eu cwblhau’n dda i gasglu tystiolaeth) (rhestr ar gael ar gais). Cafodd adolygiadau perthnasol a nodwyd o’r chwiliad eu sgrinio am gymhwysedd yn erbyn meini prawf cynhwysiant y crynodeb tystiolaeth.

Nododd y chwiliad ffynhonnell cadarn a’r sgrinio bod yr wyth adolygiad systematig canlynol yn berthnasol:

• Baker, P.R.A., et al., Community wide interventions for increasing physical activity. Cochrane Database of Systematic Reviews, 2015(1).

• Haynes, C., et al., Evidence statements on the effectiveness of local interventions to promote cycling and walking for recreational and travel purposes. 2012, NICE: London.

• Hosking, J., et al., Organisational travel plans for improving health. Cochrane Database of Systematic Reviews, 2010(3).

• Johnson, M., et al., Synthesis of evidence relating to barriers and facilitators to implementing interventions that promote cycling and walking, and to carrying out cycling and walking for recreational and travel purposes. Sheffield: School of Health and Related Research, The University of Sheffield, 2012.

• NICE, Physical activity and the environment update. Effectiveness and cost effectiveness evidence review 3: Park, Neighbourhood and Multicomponent Interventions. 2018, NICE: London.

• NICE, Physical activity and the environment update Effectiveness and cost effectiveness Evidence review 1: public transport. 2018, NICE: London.

• NICE, Physical activity and the environment update Effectiveness and cost effectiveness Evidence review 2: ‘Ciclovia’ and Street Closures, Trails and Safe Routes to Schools. 2018, NICE: London.

• NICE, Physical activity and children Review 5: Intervention Review: Children and Active Travel. 2008, NICE Public Health Collaborating Centre - Physical Activity: London.

Echdynnwyd data o’r astudiaethau sylfaenol oedd wedi eu cynnwys yr yr adolygiadau oedd yn bodloni’r meini prawf cynnwys ar gyfer y crynodeb hwn i mewn i daenlen (ar gael ar gais). Mae hyn yn cynnwys mwy o fanylion am y ffynonellau a nodwyd gafodd wedyn eu defnyddio i lunio’r datganiadau tystiolaeth testun. Cafodd y sgorau arfarnu ansawdd gan awduron yr adolygiad systematig eu hechdynnu hefyd, ynghyd â’r offeryn a ddefnyddiwyd. I gyd, roedd 55 o astudiaethau oedd wedi eu cynnwys yn yr adolygiadau systematig yn bodloni’r meini prawf cynnwys ar gyfer y crynodeb tystiolaeth yma.

Cynhaliwyd chwiliad ychwanegol o MEDLINE ar gyfer astudiaethau sylfaenol a gyhoeddwyd ers 2016 hefyd, er mwyn sicrhau bod y sail dystiolaeth oedd yn cael ei harchwilio wedi ei diweddaru. Cafodd canlyniadau chwilio o’r chwiliad ychwanegol hwn eu sgrinio am gymhwysedd yn erbyn meini prawf cynnwys y crynodeb tystiolaeth. Nodwyd tri deg dau o astudiaethau sylfaenol perthnasol o’r chwiliad ychwanegol. Echdynnwyd data i mewn i’r daenlen, ac aseswyd ansawdd yr astudiaethau gan ddefnyddio’r offeryn EPHPPd.

Cafodd tystiolaeth o 87 o astudiaethau eu cynnwys i gyd yn y crynodeb tystiolaeth yma.

Wrth lunio’r datganiadau tystiolaeth, rhoddwyd ystyriaeth i ddyluniad/ansawdd yr astudiaeth (fel y nodir gan awduron yr adolygiad systematig), ynghyd â’r effaith ar gyfer canlyniadau teithio llesol. Mae mwy o wybodaeth am y dulliau a ddefnyddir ar gyfer y crynodeb tystiolaeth yma, ynghyd â rhestr o’r canlyniadau penodol oedd yn bodloni ein meini prawf cynnwys ar gael ym mhrotocol y crynodeb tystiolaeth (ar gael ar gais).

NODER: Chwiliwyd nifer gyfyngedig o ffynonellau ar gyfer y crynodeb tystiolaeth hwn. Felly, efallai nad yw’r dystiolaeth sydd wedi ei chynnwys yn cwmpasu cyfanswm y sail dystioaleth a bod ymyriadau newydd ac arloesol wedi cael eu colli.

 

d Effective Public Healthcare Panacea Project. Quality assessment tool for quantitative studies. Canada. https://www.ephpp.ca/quality-assessment-tool-for-quantitative-studies/ [Cyrchwyd ddiwethaf: 24/08/22]