Neidio i'r prif gynnwy

Adran 6 - Geirfa

Anfwriadol – yn cyfeirio at farwolaethau 'damweiniol' neu achosion naturiol.

Bwriadol – yn cyfeirio at hunanladdiad a achoswyd yn fwriadol neu yr amheuir ei fod yn hunanladdiad.

Marwolaethau cysylltiedig â dŵr – Mae marwolaeth sy’n gysylltiedig â dŵr yn cyfeirio at bob marwolaeth mewn dŵr, arno neu’n agos ato. Mae hyn yn cynnwys boddi a syrthio i mewn i ddŵr neu'n agos ato.

Tymhorau – Haf (Mehefin, Gorffennaf, Awst), Gwanwyn (Mawrth, Ebrill, Mai), Hydref (Medi, Hydref, Tachwedd), Gaeaf (Rhagfyr, Ionawr, Chwefror).

Cymedr – cyfartaledd y set ddata.

Gwyriad safonol – mesur cryno o faint yr amrywiad mewn set o werthoedd o'r cymedr.

Poblogaeth flynyddol gyfartalog – nifer y plant a phobl ifanc ym mhoblogaeth Cymru ym mhob grŵp oedran rhwng 2013 a 2022 (ffigur 2022 a ddefnyddiwyd 2021 fel dirprwy) wedi’i rannu â deg.

Cyfeiriadau

1. Iechyd Cyhoeddus Cymru. Patrymau a thueddiadau marwolaethau plant yng Nghymru, 2011-
2020. 2022 [cyrchwyd 16 Mehefin 2023]. Ar gael yn: https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/rhaglen-adolygu-marwolaethau-plant1/adroddiadau-cymraeg/patrymau-a-thueddiadau-marwolaethau-plant-yng-nghymru-2011-2020/
2. Swyddfa Ystadegau Gwladol. Nomis – Official census and labour market statistics [cyrchwyd 26 Mehefin 2023]. Ar gael yn: https://www.nomisweb.co.uk