Nod yr adroddiad hwn yw helpu i lywio gwaith gweithwyr proffesiynol diogelwch dŵr yng Nghymru i atal marwolaethau plant a phobl ifanc yn y dyfodol oherwydd marwolaethau sy’n gysylltiedig â dŵr.
Mae marwolaeth plentyn neu berson ifanc yn cael effeithiau dinistriol sy’n newid bywyd ar deuluoedd a’r gymuned ehangach. Boddi yw’r ail achos mwyaf cyffredin o farwolaethau anafiadau anfwriadol ymhlith plant o dan 18 oed yng Nghymru, ar ôl marwolaethau sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth. 1
Nododd y Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant, Diogelwch Dŵr Cymru a RoSPA bum marwolaeth o blant dan 18 oed o ganlyniad i foddi yn 2022. Roedd hyn yn uwch nag yn y blynyddoedd blaenorol, a arweiniodd at weithio mewn partneriaeth i gynhyrchu’r adroddiad hwn.
Cyhoeddodd y rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant yr Adolygiad Thematig o farwolaethau plant a phobl ifanc drwy foddi yn 2016 a gwnaeth gyfres o argymhellion.
Mae cynnydd da wedi'i wneud tuag at lawer o'r argymhellion gan gynnwys sefydlu fforwm Cymru gyfan ar gyfer diogelwch dŵr.
Ehangodd grŵp Diogelwch Dŵr presennol i Ddiogelwch Dŵr Cymru sy'n cynnwys tua 40 o sefydliadau.
Datblygodd Diogelwch Dŵr Cymru Strategaeth Atal Boddi Cymru (2020-2026) ac mae nifer o enghreifftiau o weithgareddau atal achosion o foddi a diogelwch dŵr wedi’u hanelu at blant a phobl ifanc yng Nghymru (Cyswllt i restr gweithgareddau SDC ar gyfer Plant a Phobl Ifanc).