Neidio i'r prif gynnwy

Strategaeth Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru (2023-2026)

Rydym wedi datblygu Strategaeth Ymchwil a Gwerthuso ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru a fydd yn ein harwain hyd 2026. Mae’n dangos sut y byddwn yn gweithio gydag eraill i arwain gwaith ymchwil a gwerthuso yng Nghymru. Strategaeth alluogi yw hon a fydd yn ein helpu i gyflawni ein Strategaeth Hirdymor (2023-35).

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymrwymedig i ymchwil a gwerthuso er mwyn ceisio dod o hyd i ffyrdd o wella iechyd, lleihau anghydraddoldebau a hyrwyddo llesiant yng Nghymru. 

Er mwyn gweithredu’r strategaeth byddwn yn:

  • Nodi blaenoriaethau ymchwil a gwerthuso 
  • Arwain a gweithio gyda phartneriaid ar waith ymchwil a gwerthuso ystyrlon. 
  • Llywio ymchwil a gwerthuso i ddeall pa ddulliau sy’n effeithiol a sut y gellir eu rhoi ar waith.

Er mwyn sicrhau bod ein strategaeth yn llwyddiannus, byddwn yn:

Creu diwylliant ymchwil a gwerthuso

Rydym am greu diwylliant ymchwil a gwerthuso sy’n rhoi gwerth ar weithgareddau ymchwil a gwerthuso. Rydym yn awyddus i gael diwylliant sy’n cefnogi’r staff i ddatblygu a defnyddio sgiliau ymchwil a gwerthuso, er mwyn cynyddu capasiti a gallu’r gweithlu

Rheoli a chefnogi gwaith ymchwil a gwerthuso yn Iechyd Cyhoeddus Cymru

Byddwn yn creu seilwaith galluogol o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi ac i reoli ymchwil. Bydd hyn yn cefnogi’r broses o ddatblygu amgylchedd ymchwil a gwerthuso ffyniannus o fewn y sefydliad.

Gweithio gydag eraill i gyflawni gwaith ymchwil a gwerthuso

Gan fod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhan o ecosystem ymchwil a gwerthuso ehangach, mae’n hollbwysig ein bod yn gweithio gydag ystod eang o bartneriaid a chyllidwyr. Rydym yn awyddus i ddylanwadu ar agenda ymchwil y rhai sy’n cyllido ymchwil, adrannau o’r llywodraeth, sefydliadau academaidd a sefydliadau partner.

Cynnwys partneriaid, rhanddeiliaid a’r cyhoedd yn ein gwaith ymchwil a gwerthuso

Mae cynnwys ac ymgysylltu â’r cyhoedd mewn ffordd ragorol yn sicrhau bod gwaith ymchwil a gwerthuso yn fwy perthnasol a dibynadwy ac yn fwy tebygol o newid dulliau ymarfer. Rydym yn awyddus i gynnwys pobl sydd â diddordeb yn iechyd y boblogaeth i wella perthnasedd, ansawdd ac effaith ein gwaith ymchwil a gwerthuso.