Neidio i'r prif gynnwy

Adran 2 Cyflwyniad

Iechyd Cyhoeddus Cymru ydym ni – y sefydliad iechyd cyhoeddus cenedlaethol i Gymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda’n gilydd ar gyfer Cymru iachach’. 

Rydym yn helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach ac iachach.

Mae gennym Strategaeth Hirdymor (2023-35) sy’n egluro ein gweledigaeth ar gyfer sicrhau dyfodol iachach i bobl yng Nghymru erbyn 2035. Rydym wedi ymrwymo i weithio tuag at Gymru lle mae pobl yn byw bywydau hirach ac iachach a lle mae gan bawb fynediad teg a chyfartal i’r pethau sy’n arwain at lefelau da o iechyd a llesiant.

Mae’r Strategaeth Ymchwil a Gwerthuso yn strategaeth alluogi sy’n ein helpu i gyflawni ein Strategaeth Hirdymor.

Er mwyn gweithredu’r strategaeth, byddwn:

  • Yn nodi blaenoriaethau ar gyfer ymchwil a gwerthuso a fydd yn dylanwadu ar yr agenda ymchwil ar gyfer iechyd poblogaethau 
  • Yn arwain partneriaid ac yn gweithio gyda nhw ar bortffolio cadarn o waith ymchwil a gwerthuso er mwyn cynhyrchu a defnyddio tystiolaeth i wella iechyd poblogaethau
  • Yn llunio gwaith ymchwil a gwerthuso er mwyn deall pa ddulliau gweithredu sy’n effeithiol a sut y gellir eu rhoi ar waith er mwyn gwella iechyd y boblogaeth a lleihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.

Mae Cymru Iachach yn amlygu’r ffaith bod dull gweithredu’n seiliedig ar dystiolaeth, sy’n defnyddio ymchwil, gwerthuso a gwybodaeth i ddeall beth sy’n gweithio, ac sy’n golygu gweithio gydag eraill, yn egwyddor sylfaenol ar gyfer sbarduno newid a thrawsnewid ar draws y system ar gyfer iechyd poblogaethau.

Fel y sefydliad o fewn y GIG sy’n darparu arweiniad ynghylch iechyd cyhoeddus yng Nghymru, mae dyletswydd arnom i hybu agenda ymchwil a gwerthuso sy’n cynhyrchu tystiolaeth o safon ac sy’n cyfrannu i’n gwybodaeth am atal afiechydon, ymestyn oes pobl a hybu iechyd a llesiant i bawb.

Yn y strategaeth hon, caiff ymchwil a gwerthuso eu diffinio fel gweithgareddau ar wahân: 

Nod ymchwil yw llenwi bylchau yn y sylfaen dystiolaeth, tra mae gwerthuso yn canolbwyntio ar ddeall effaith ymyriadau, rhaglenni neu bolisïau penodol ar ganlyniadau iechyd. Er bod ymchwil a gwerthuso ill dau yn bwysig, mae eu diben yn wahanol yng nghyd-destun gwella iechyd poblogaethau