Neidio i'r prif gynnwy

Adran 7 Goruchwylio'r strategaeth

Mae’n hanfodol sicrhau cydberchnogaeth ar y Strategaeth Ymchwil a Gwerthuso ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn allanol, er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei gweithredu’n llwyddiannus ac er mwyn ein galluogi i gyrraedd ein nod, sef cael amgylchedd ymchwil a gwerthuso llewyrchus sy’n mynd i’r afael â’r heriau mawr sy’n wynebu Cymru o safbwynt iechyd.

Bydd Grŵp Goruchwylio Strategol Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru yn datblygu ac yn hybu’r cynllun ar gyfer gweithredu’r strategaeth hon, ac yn asesu cynnydd yn erbyn deilliannau’r strategaeth ac yn monitro gweithgareddau ymchwil a gwerthuso ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru. Caiff y grŵp hwn ei gadeirio gan y Pennaeth Ymchwil a Datblygu a bydd yn cynnwys cynrychiolaeth o’r Swyddfa Ymchwil a Datblygu, y Tîm Gwerthuso, Arweinwyr Ymchwil a Gwerthuso Is-adrannau/Cyfarwyddiaethau (neu’u dirprwyon enwebedig) a chynrychiolaeth o’r Cyfarwyddiaethau Datblygu Sefydliadol a Phobl, Llywodraethu Gwybodaeth a Gweithrediadau a Chyllid yn ôl yr angen.

Bydd Arweinwyr Ymchwil a Gwerthuso y Cyfarwyddiaethau/Is-adrannau yn cynorthwyo i weithredu’r strategaeth, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddatblygu capasiti a gallu ac adolygu blaenoriaethau ar gyfer ymchwil a gwerthuso. Bydd y Grŵp yn atebol ac yn adrodd i Dîm Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Cymru ac i Fwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru, trwy’r Pwyllgor Gwybodaeth, Ymchwil a Hysbysrwydd. Bydd yn atebol i Lywodraeth Cymru trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Caiff Panel Partneriaeth Ymchwil a Gwerthuso allanol ei ddatblygu, a fydd yn canolbwyntio ar wneud yn fawr o gyfleoedd ymchwil a gwerthuso mewn cydweithrediad â phartneriaid ymchwil allanol, ac a fydd yn darparu cyngor i gefnogi datblygu arweinyddiaeth ym maes ymchwil a gwerthuso yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Bydd y gwaith o weithredu’r strategaeth hon yn cael ei arwain gan ein hegwyddorion ar gyfer ymchwil a gwerthuso, sydd wedi’u halinio yn gadarn â’n pum ffordd o weithio fel y diffinnir yn yr egwyddor datblygu cynaliadwy yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.