Neidio i'r prif gynnwy

Adran 3 Bwrw golwg yn ôl ar waith ymchwil a gwerthuso yn Iechyd Cyhoeddus Cymru

Yn ystod y pandemig COVID-19 ac wedi hynny, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn cyflawni gwaith ymchwil a gwerthuso sydd wedi helpu gyda’r ymateb a’r ymdrechion adfer wedyn, trwy ddarparu gwybodaeth werthfawr y gellid ei rhoi ar waith.

Gyda chymorth cyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, cyflawnodd Swyddfa Ymchwil a Datblygu Iechyd Cyhoeddus Cymru rôl ganolog o safbwynt cefnogi gweithgarwch ymchwil a gwerthuso ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru trwy nodi cyfleoedd ymchwil a darparu cyngor a chymorth ar gyfer gwaith ymchwil a gwerthuso.

Rhannu agenda ymchwil â phartneriaid  

Ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â phartneriaid academaidd ac ystod o bartneriaid ymchwil i gryfhau gwaith ymchwil a gwerthuso ym maes iechyd poblogaethau.

Mae enghreifftiau’n cynnwys y canlynol:
 

Datblygu diwylliant o werthuso o fewn y sefydliad

Mae Tîm Gwerthuso Canolog wedi’i sefydlu yn Iechyd Cyhoeddus Cymru er mwyn:

  • Gweithio i bennu safonau ymarfer ar gyfer gwaith gwerthuso ac i wella gwybodaeth a sgiliau technegol.
  • Gwneud gwaith gwerthuso trylwyr ac annibynnol yng nghyswllt rhaglenni craidd Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n flaenoriaeth uchel, neu’r rhai a gyflawnir gan bartneriaid, os oes angen sefydliad annibynnol i wneud hynny.
  • Gweithio gyda phawb i ddeall pwysigrwydd gwaith gwerthuso a pham y mae ei angen, a chynnwys arbenigwyr gwerthuso yn gynnar yn y broses o lunio ymyriadau.
  • Datblygu cymuned ymarfer ar gyfer gwaith gwerthuso er mwyn rhannu arfer gorau a chynorthwyo eraill ar draws y sefydliad i ddatblygu sgiliau a gallu o ran gwerthuso.

Gwaith gwerthuso sydd ar y gweill ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Uned Dreialon Prifysgol Abertawe yn gweithio mewn partneriaeth i werthuso Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan trwy werthuso’r broses a’r canlyniadau