Neidio i'r prif gynnwy

Ymgysylltu â phobl a chymunedau

Mae ein dogfen Ein Dull o Ymgysylltu yn trafod amrywiaeth eang o weithgareddau i gynnwys pobl, o unigolion a chymunedau yn rhannu eu profiadau, i gymunedau sy'n unedig ar bwnc penodol, hyd at roi ffyrdd i bobl ddylanwadu ar faterion sy'n effeithio arnynt.

Byddwn yn canolbwyntio ar gynnwys a chydweithio – dau o'r ffyrdd o weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Rhaid i'n dull roi pobl wrth wraidd ein gwaith.