Neidio i'r prif gynnwy

Adran 5 - Rhoi ein strategaeth ar waith

 

Byddwn yn rhoi ein strategaeth ar waith drwy ddatblygu atebion digidol sy'n diwallu anghenion pobl. Byddwn yn canolbwyntio ar ddulliau arloesol sy'n gweithio, gan roi'r rhai sy'n defnyddio ein gwasanaethau wrth wraidd yr hyn a wnawn, a chanolbwyntio'n gyson ac yn barhaus ar wella ansawdd ein gwasanaethau.

Bydd y Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru), yn enwedig y ‘ddyletswydd ansawdd’ a'r ‘ddyletswydd gonestrwydd’, yn ffactor allweddol wrth roi ein strategaeth ar waith. Bydd nifer bach o strategaethau a dulliau eraill yn ategu hyn.