Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1 - Crynodeb Gweithredol

Ar y dudalen hon:

 - Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud
 - Ein strategaeth
 - Yr heriau sy'n ein hwynebu
 - Strategaeth ar gyfer y dyfodol
 - Ein rôl
 - Ein blaenoriaethau o dan y strategaeth hon (gweler adran 6)
 - Cyflawni ein strategaeth

 

Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud

Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru.

 

Ein strategaeth

Mae'r Strategaeth Hirdymor hon yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer cyflawni dyfodol iachach i bobl yng Nghymru erbyn 2035. Rydym yn ymrwymedig i weithio tuag at Gymru lle mae pobl yn byw bywydau hirach, iachach a lle mae gan bawb  fynediad teg a chyfartal at y pethau sy'n arwain at iechyd a llesiant da. Byddwn yn gwneud hyn drwy ganolbwyntio ar chwe blaenoriaeth, yr ydym yn eu disgrifio yn y ddogfen hon. Y rhain fydd ein hamcanion llesiant hefyd. Rydym wedi nodi pam rydym wedi dewis y blaenoriaethau hyn a'r gwaith y byddwn yn ei wneud o dan bob un dros y blynyddoedd i ddod. Ni allwn gyflawni'r blaenoriaethau hyn ar ein pen ein hunain. I lwyddo, bydd angen i ni weithio gyda'n gilydd ac mewn partneriaeth â'n rhanddeiliaid allweddol a'r cyhoedd.

 

Yr heriau sy'n ein hwynebu

Mae pandemig Covid-19 wedi cael effaith fawr ar bobl Cymru, a bydd yr effeithiau yn parhau i gael eu teimlo am flynyddoedd i ddod. Mae hyn yn cynnwys nid yn unig yr effaith uniongyrchol ar ein hiechyd a'n llesiant ond hefyd y goblygiadau ehangach a thymor hwy. Mae canlyniadau cymdeithasol ac economaidd y pandemig wedi'u teimlo'n anghyfartal ar draws ein cymdeithas, yn enwedig ymhlith y rhai a oedd eisoes â'r anghenion iechyd a chymdeithasol mwyaf.

Mae'n debygol y bydd effaith hyd yn oed yn fwy ar yr anghydraddoldebau hyn yn y blynyddoedd i ddod o ganlyniad i'r argyfwng costau byw presennol. Nid yw cyflogau a budd-daliadau yn cadw i fyny â chostau byw cynyddol, yn enwedig prisiau ynni a bwyd, sy'n golygu na fydd pobl yn gallu fforddio'r hanfodion. Bydd hwn yn fater iechyd cyhoeddus hirdymor, a fydd yn effeithio ar y boblogaeth gyfan ac yn gwneud anghydraddoldebau iechyd presennol yn waeth. Rydym hefyd yn gwybod yr effaith y mae'r heriau hyn, yn enwedig y pandemig, wedi'i chael ar y system iechyd a gofal cymdeithasol ehangach.

Mae'r pwysau presennol ar y GIG a gofal cymdeithasol yn sylweddol, a bydd angen i amrywiaeth o bartneriaid weithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â hyn dros y blynyddoedd i ddod. Mae effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol y pwysau hyn ar y cyhoedd, gan gynnwys cleifion a'u teuluoedd, yn sylweddol. Ochr yn ochr â hyn, dylem ganolbwyntio ar gynorthwyo tegwch iechyd (gwneud yn siŵr bod gan bawb fynediad teg at y pethau sy'n ein cadw'n iach). 

 

Mae'n bosibl mai newid hinsawdd yw'r bygythiad mwyaf arwyddocaol a wynebwn yn fyd-eang. Bydd ei ganlyniadau'n effeithio ar bob agwedd ar fywyd sy'n hanfodol i gyflawni a chynnal iechyd da. Mae angen camau gweithredu brys i fynd i'r afael â newid hinsawdd, ac i fodloni gweddill Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.

 

Strategaeth ar gyfer y dyfodol

Mae'r heriau a wynebwn yn amlwg ac yn anodd. Ond, rydym wedi gweld y pŵer a'r effaith y gallwn eu cael pan fyddwn yn cyfuno ein hymdrechion a'n harbenigedd. Mae gan Gymru hanes balch o gymuned a chydweithio. Fel gwlad, rydym wedi gweld faint y gallwn ei gyflawni drwy groesawu arloesedd, datblygiadau technolegol a'n hymrwymiad i weithio gyda'n gilydd. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) (2015) yn ein galluogi i ddefnyddio dull ataliol hirdymor, gan gynnwys y cyhoedd a gweithio gyda'n partneriaid i fynd i'r afael â'r heriau rydym yn eu hwynebu heddiw ac yfory.

Y strategaeth hon yw ein hymateb i'r heriau hynny. Mae'n nodi ein rôl a sut y byddwn yn gweithio i ateb yr heriau a gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd a roddir i ni. Mae hefyd yn nodi'r blaenoriaethau allweddol y byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion a'n hadnoddau arnynt. Rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o roi ein strategaeth ar waith drwy adeiladu ar yr hyn sy'n gweithio, gweithio'n agos gyda'n partneriaid, a rhoi'r rhai sy'n defnyddio ein gwasanaethau wrth wraidd yr hyn rydym yn ei wneud. Bydd ein strategaeth yn cael ei chefnogi gan strategaethau eraill, fel ein Strategaeth Ddigidol a Data, Strategaeth Ymchwil a Gwerthuso a Strategaeth Ansawdd fel Strategaeth Sefydliadol. Bydd y rhain yn cyfeirio ac yn llunio sut y byddwn yn cyflawni ein blaenoriaethau a'n gwaith yn y dyfodol.

Er mwyn rhoi'r strategaeth hon ar waith yn effeithiol byddwn yn gweithio'n rheolaidd gyda'r trydydd sector, cynrychiolwyr cymunedol, defnyddwyr gwasanaethau a'r cyhoedd i nodi sut y gallwn fynd i'r afael â'r blaenoriaethau a nodwyd yn y strategaeth hon gyda'n gilydd. Bydd ein strategaeth newydd yn rhedeg tan 2035 ac yn nodi ein cyfeiriad strategol hirdymor yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Rydym wedi croesawu'r ‘pum ffordd o weithio’ a nodir yn y Ddeddf, a byddwn yn defnyddio'r rhain er mwyn helpu i ddatblygu ein strategaeth a'i rhoi ar waith dros y blynyddoedd i ddod.

 

Ein rôl

Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys drwy rwydweithiau fel y Gymdeithas Ryngwladol o Sefydliadau Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol (IANPHI), er mwyn helpu i gyflawni ein strategaeth. Fel aelod Cymru o IANPHI, a sefydliad iechyd cyhoeddus cenedlaethol Cymru, byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid i ddiogelu a gwella iechyd y cyhoedd. Yn ein strategaeth, rydym wedi gwneud yn siŵr ein bod yn disgrifio lle y gallwn ychwanegu'r gwerth mwyaf i bobl Cymru a'n partneriaid.

 

Ein blaenoriaethau o dan y strategaeth hon (gweler adran 6)

  1. Dylanwadu ar benderfynyddion ehangach iechyd
  2. Hybu llesiant meddyliol a chymdeithasol
  3. Hybu ymddygiad iach
  4. Cefnogi datblygu system iechyd a gofal gynaliadwy sy'n canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar
  5. Darparu gwasanaethau iechyd cyhoeddus rhagorol i ddiogelu'r cyhoedd a sicrhau'r canlyniadau iechyd gorau posibl i'r boblogaeth
  6. Mynd i'r afael ag effeithiau newid hinsawdd ar iechyd cyhoeddus

 

Ar gyfer pob blaenoriaeth, rydym wedi nodi canlyniadau a fydd yn ein helpu i weld y cynnydd a wnaed gennym o ran cyflawni'r strategaeth. Rydym yn ceisio disgrifio'n glir sut rydym yn:

  • hysbysu ein partneriaid am y bygythiadau presennol a'r bygythiadau sy'n dod i'r amlwg i iechyd yng Nghymru, y ffactorau sy'n dylanwadu ar iechyd, llesiant ac anghydraddoldebau, a'r dystiolaeth sy'n dangos bod angen i ni weithredu;
  • eirioli ar gyfer camau gweithredu i wella a diogelu iechyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd;
  • paratoi ein partneriaid i gymryd camau gweithredu i wella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd; a
  • darparu gwasanaethau cyhoeddus yr ydym yn gwybod eu bod yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael.

 

Cyflawni ein strategaeth

Wrth i ni ddechrau rhoi ein strategaeth ar waith, rydym yn cydnabod ein bod yn gweithio mewn amgylchedd anrhagweladwy a newidiol. Mae hyn wedi'i adlewyrchu yn ein risgiau strategol (unrhyw beth a allai ein hatal rhag cyflawni ein canlyniadau disgwyliedig), yr ydym wedi'u hadolygu a'u diweddaru ochr yn ochr â'n strategaeth. Mae angen i ni ddangos y gallwn ymateb yn gyflym ac yn gadarnhaol i fygythiadau a chyfleoedd newydd. Fel sefydliad sy'n dysgu, byddwn yn gwneud yn siŵr bod gan ein gwasanaethau'r gwerth mwyaf ac yn cael yr effaith fwyaf. Mae hyn yn golygu y byddwn yn blaenoriaethu'r meysydd hynny lle gallwn gael yr effaith fwyaf a bod yn hyblyg wrth ymateb i faterion newydd. 

Byddwn yn adolygu ein blaenoriaethau'n rheolaidd i sicrhau eu bod yn dal yn ddilys yn sgil newidiadau yn y sefydliad a'r tu allan iddo. Bydd hyn yn cael ei ategu gan dystiolaeth iechyd cyhoeddus, nodi bygythiadau yn y dyfodol (fel ymwrthedd gwrthficrobaidd), adborth gan y rhai sy'n defnyddio ein gwasanaethau ac ymgysylltu â'n rhanddeiliaid.