Neidio i'r prif gynnwy

Adran 6 - Casgliad

 

Mae'r strategaeth hon yn nodi ein huchelgeisiau hirdymor ar gyfer sut y byddwn yn mynd i'r afael â'r heriau iechyd sy'n wynebu Cymru yn y blynyddoedd i ddod. Er bod yr heriau sy'n ein hwynebu yn anodd, rydym wedi dangos dros y blynyddoedd diwethaf yr hyn y gallwn ei gyflawni drwy ymrwymiad, proffesiynoldeb ac arbenigedd ein staff.

Mae ein strategaeth yn rhoi'r cyfle i ni adeiladu ar ffyrdd arloesol o weithio a'u croesawu, gan ddefnyddio potensial symiau enfawr ac amrywiol o wybodaeth a thechnolegau newydd, a gweithio ar draws ffiniau proffesiynol a chydag amrywiaeth o bartneriaid.

Rydym wedi rhoi'r grym i'n staff ddod at ei gilydd, gan ddefnyddio eu gwybodaeth a'u sgiliau, er mwyn helpu i lunio ein strategaeth. Byddwn yn llwyddo i gyflawni'r strategaeth drwy eu harbenigedd, sgiliau a'u gwybodaeth nhw.

Byddwn yn mynd i'r afael â'r heriau a'r cyfleoedd y mae Cymru yn eu hwynebu yn y blynyddoedd i ddod ac yn llwyddo drwy ymrwymiad, proffesiynoldeb ac ymdrechion ein staff. Byddwn yn gweithio i greu amgylchedd sy'n annog arloesi a gweithio mewn ffordd hyblyg.