Bydd ein Strategaeth Ddigidol a Data yn defnyddio'r dechnoleg fodern y mae pobl yn ei disgwyl ac yn gwneud gwell defnydd o'r wybodaeth sydd gennym ni ac eraill er mwyn darparu'r effaith fwyaf ar ganlyniadau iechyd a llesiant yng Nghymru. Rydym hefyd wedi datblygu'r pum prif egwyddor ddigidol ganlynol i arwain ein gwaith.
Bydd ein Strategaeth Ddigidol a Data yn canolbwyntio ar nifer o brif feysydd, gan gynnwys adeiladu ar seiliau cadarn, sicrhau ein bod yn cyflawni ein blaenoriaethau, ac yn gwella iechyd cyhoeddus drwy dechnoleg ddigidol.