Neidio i'r prif gynnwy

Ansawdd fel Strategaeth Sefydliadol

Ein nod yw bod yn enghraifft berffaith o sefydliad mewn perthynas ag ansawdd, gwella ac arloesi. Byddwn yn defnyddio'r gwerthoedd hyn wrth roi ein strategaeth newydd ar waith. Mae Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 yn ategu'r nod hwn, yn enwedig ei dyletswyddau ansawdd a gonestrwydd.

Nod Ansawdd fel Strategaeth Sefydliadol yw helpu sefydliad i ddarparu gwasanaethau a chynnyrch sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr ac yn helpu i greu amgylchedd lle gall ein staff fwynhau eu gwaith ac ymfalchïo ynddo.