I blant bach, mae cerdded i’r ysgol yn ffordd ddefnyddiol o feithrin eu synnwyr o’r ffordd a’u hyder yng nghwmni oedolyn cyfrifol.
Wrth i blant fynd yn hŷn a chyrraedd yr ysgol uwchradd, mae llawer o rieni’n dechrau ystyried gadael i’w plant gerdded i’r ysgol ar eu pen eu hunain neu gyda ffrindiau. Mae hyn yn gyfle gwych i feithrin eu hannibyniaeth a sefydlu ymddiriedaeth ar adegau pan fydd llawer o blant ac oedolion eraill o gwmpas yn aml.