Neidio i'r prif gynnwy

Mae'n creu amser i chi sgwrsio â'ch gilydd

Yn ein bywydau prysur, gall fod yn anodd neilltuo amser i siarad â’n gilydd. Ar ben hynny, mae llawer o rieni’n teimlo bod boreau a’r cyfnod ar ôl ysgol yn arbennig o anodd, wrth iddynt ruthro i geisio gwneud pethau, osgoi traffig yr ysgol a dod o hyd i lefydd addas i barcio.

Gall cerdded/olwyno i’r ysgol helpu i greu cyfnod di-straen yn eich trefn arferol i anadlu a siarad â’ch gilydd. Gall hyn helpu i ddatblygu sgiliau cymdeithasol a sgiliau canfod y ffordd eich plant, yn ogystal â’ch perthynas â nhw.

I blant hŷn, mae’n gyfle da i ddal i fyny y tu allan i amgylchedd yr ysgol a gwneud ffrindiau newydd.