Neidio i'r prif gynnwy

Mae'n cefnogi llesiant meddyliol a chorfforol

Mae gweithgarwch corfforol rheolaidd yn lleihau eich risg o ddatblygu llawer o gyflyrau hirdymor (Linc Saesneg yn unig), gan gynnwys clefyd y galon, diabetes math 2, strôc a rhai mathau o ganser.

Mae ymchwil yn dangos bod gweithgarwch corfforol hefyd yn gallu rhoi hwb i hunan-barch, hwyliau, ansawdd cwsg ac egni, yn ogystal â lleihau eich risg o straen, iselder clinigol, dementia a chlefyd Alzheimer.

I blant, mae gweithgarwch corfforol yn rhan bwysig o’u datblygiad meddyliol a chorfforol, ac mae’n gallu eu helpu i sefydlu arferion iach a fydd yn parhau i'w cyfnod fel oedolyn.

Trwy deithio'n actif i'r ysgol, mae posib i blant fodloni fyny i hanner eu anghenion gweithgaredd corfforol dyddiol a argymhellir.