Neidio i'r prif gynnwy

Beicio

Mae beicio’n gallu bod yn hwyl, a ffordd gyflymach o fynd yn ôl ac ymlaen i’r ysgol. Gall Cycle Streets UK (Linc Saesneg yn unig eich helpu i ddod o hyd i’r llwybr tawelaf, ac mae Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol Sustrans (Linc Saesneg yn unig) yn eich galluogi i hidlo llwybrau yn ôl rhanbarth, pellter ac os ydynt yn rhydd o draffig. O dan Gynllun Gweithredu Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, mae llwybrau beicio newydd a diogel yn cael eu cyflwyno ledled Cymru. Gall eich awdurdod lleol ddarparu gwybodaeth am lwybrau yn eich ardal chi.