Neidio i'r prif gynnwy

Myfyrwyr- A yw brechu ar eich rhestr o bethau i'w gwneud?

Mae cael y brechiadau diweddaraf yn bwysig i bob un ohonom, ond hyd yn oed yn fwy felly i fyfyrwyr sy'n dechrau yn y brifysgol a'r coleg a fydd yn cyfarfod, yn cymysgu ac yn byw gyda llawer o bobl newydd.  

Gall prifysgolion fod yn fannau problemus o ran y frech goch, clwy'r pennau, llid yr ymennydd a sepsis yn ogystal â ffliw a COVID-19 gan eu bod yn gyfle perffaith i heintiau ledaenu. 

Bydd rhai myfyrwyr sy'n dechrau yn y brifysgol am y tro cyntaf yr hydref hwn wedi colli brechlynnau rheolaidd yn gynharach mewn bywyd sy'n eu hamddiffyn rhag cyflyrau a allai fod yn angheuol.  

 

Rhestr wirio ar gyfer mynd i'r coleg neu'r brifysgol

Cyn gadael am y brifysgol, gwiriwch eich bod wedi cael eich brechiadau.

Hyd yn oed os ydych eisoes wedi dechrau yn y brifysgol, dylech wirio gyda'ch meddygfa a ydych wedi cael eich brechlynnau diweddaraf.

Dylech fod wedi cael y brechlynnau canlynol hyd at 16 oed fel rhan o raglen frechu reolaidd:

  • dau ddos o'r brechlyn MMR
  • un dos o'r brechlyn MenACWY (ar gael hyd at eich pen-blwydd yn 25 oed)
  • pum dos o'r brechlyn difftheria, tetanws a pholio
  • un ddos o'r brechlyn HPV

Gall dynion (a anwyd ar ôl 01.09.2006) a menywod gael eu brechlyn HPV tan iddynt gyrraedd eu pen-blwydd yn 25 oed. Gall dynion sy'n cael rhyw gyda dynion (GBMSM) gael y brechlyn HPV hyd at 45 oed mewn gwasanaeth iechyd rhywiol.

Hefyd, peidiwch ag anghofio cael brechlyn ffliw yr hydref (ar gyfer y rhai mewn grwpiau sydd â risg uwch o'r ffliw.)

 

Hefyd, mae'n dda gwybod

  • arwyddion a symptomau llid yr ymennydd a sepsis 
  • sut i geisio cyngor meddygol 

 

Pan fyddwch yn cyrraedd y brifysgol dylech wneud y canlynol 

  • Cofrestru gyda meddyg teulu cyn gynted ag y gallwch – peidiwch ag aros nes bod gennych broblem.

  • Trefnu gyda’ch meddyg teulu i ddal i fyny ar unrhyw frechlynnau rydych wedi'u colli neu sy'n ddyledus.

 

A oes angen i chi ychwanegu brechu at eich rhestr o bethau i'w gwneud?

Dylai pawb y gellir eu brechu fanteisio ar y cynnig gan fod hyn yn helpu i amddiffyn pobl agored i niwed na ellir eu brechu am sawl rheswm. Mae cael eich brechu'n llawn yn helpu i atal trosglwyddo clefydau heintus ac mae'n helpu i'ch amddiffyn chi, eich teulu, eich ffrindiau a staff.

I gael gwybod a ydych wedi cael eich brechiadau diweddaraf, cysylltwch â'ch meddygfa.

 

Gwybodaeth Brechlyn COVID-19

Darganfyddwch fwy am frechiadau COVID-19

 

Brechlyn Ffliw

Darganfyddwch fwy am frechiadau ffliw.

 

Beth sydd angen i mi ei wneud i gael fy mrechiadau?

Cysylltwch â'ch meddygfa yn gyntaf. Os nad ydych yn siŵr pa frechiadau rydych wedi'u cael, gwiriwch. Os nad yw eich cofnodion ar gael, neu os ydych yn credu eich bod wedi colli rhai brechlynnau, trefnwch apwyntiad i'w cael gyda'ch meddyg teulu cyn i chi adael.

 

Eisoes yn y brifysgol? 

Os ydych wedi symud i ddinas newydd ar gyfer y brifysgol a chofrestru gyda meddyg teulu newydd, dylai fod ganddynt eich cofnodion a gallant wirio eich brechiadau i chi.

Os oes amheuon gennych, mynnwch eich brechiadau a gwnewch yn siŵr eich bod wedi'ch amddiffyn yn llawn. Mae cael eich brechu'n llawn yn golygu bod gennych yr amddiffyniad gorau. Nid oes unrhyw frechlyn yn gwbl effeithiol, felly dylech gadw llygad am unrhyw arwyddion a symptomau clefyd a gofalu am eich iechyd. Yna gallwch barhau i fwynhau popeth sydd gan y brifysgol i'w gynnig.

 

Gwybod yr arwyddion a'r symptomau

Rydym am i bawb fod yn iach a mwynhau eu hamser yn y brifysgol ond gall cymysgu â phobl newydd gynyddu lledaeniad clefydau heintus.

Sicrhewch eich bod wedi cofrestru gyda meddyg teulu cyn i chi fod yn sâl. Gall llawer o fyfyrwyr newydd ddal ‘ffliw'r glasfyfyrwyr’ a bydd angen iddynt orffwys. Gallwch gymryd meddyginiaeth dros y cownter fel parasetamol i'ch helpu i deimlo’n well.

Os oes gennych symptomau llid yr ymennydd neu sepsis, y frech goch neu glwy’r pennau dylech geisio cyngor meddygol yn gyflym. Gellir dod o hyd i arwyddion a symptomau llid yr ymennydd a sepsis yn meningitisnow.org.

 

Yn teimlo'n sâl – dywedwch wrth rywun!  

Gallwch fynd i wefan GIG 111 Cymru neu ffonio 111 am gyngor dros y ffôn.

Mewn argyfwng meddygol, ffoniwch 999. 

Os ydych yn sâl, dywedwch wrth rywun, yn ddelfrydol rhywun a all wirio eich bod yn iawn a ffonio am help os nad ydych yn iawn. Dylech ymddiried yn eich greddf, cadw mewn cysylltiad â’ch cymdogion a gofalu am eich gilydd.

Os credwch fod gennych COVID-19 dilynwch y canllawiau diweddaraf gan y Llywodraeth Cymru yma:

Cyngor iechyd y cyhoedd ar gyfer y cyhoedd: cwestiynau cyffredin.