Mae cael y brechiadau diweddaraf yn bwysig i bob un ohonom, ond hyd yn oed yn fwy felly i fyfyrwyr sy'n dechrau yn y brifysgol a'r coleg a fydd yn cyfarfod, yn cymysgu ac yn byw gyda llawer o bobl newydd.
Gall prifysgolion a cholegau fod yn fannau poblogaidd ar gyfer y frech goch, clwy'r pennau, llid yr ymennydd a sepsis yn ogystal â'r ffliw a COVID-19 gan eu bod yn rhoi’r cyfle perffaith i heintiau ledaenu.
Bydd rhai myfyrwyr sy'n dechrau mewn prifysgol neu goleg wedi colli brechlynnau arferol yn gynharach mewn bywyd sy'n eu hamddiffyn rhag cyflyrau a allai fod yn angheuol.
Gallwch wirio eich statws brechu a gwneud trefniadau i dderbyn dosau a gollwyd drwy gysylltu â'ch meddyg teulu. Fel arall, gallwch gysylltu â'ch tîm imiwneiddio lleol i ddarganfod sut i ddal i fyny â brechlynnau a gollwyd. Gweler y manylion yma: Cysylltiadau Brechu - Byrddau Iechyd Cymru.
Cyn mynd i'r brifysgol neu'r coleg, gwiriwch eich bod wedi cael y brechiadau diweddaraf.
Yn ddelfrydol, dylid rhoi brechlynnau o leiaf bythefnos cyn dechrau yn y coleg neu’r brifysgol gan fod hyn yn rhoi amser i'ch corff adeiladu amddiffyniad. Fodd bynnag, gellir rhoi brechlynnau ar unrhyw adeg. Peidiwch ag oedi, gorau po gyntaf!
Hyd yn oed os ydych chi eisoes wedi dechrau yn y coleg neu'r brifysgol, gallwch chi barhau i wirio gyda'ch practis meddygon teulu i weld a ydych chi'n gyfredol. Yna gallwch drefnu i gael brechlynnau y gallech fod wedi'u methu.
Dylech fod wedi cael y brechlynnau canlynol hyd at 16 oed fel rhan o raglen frechu reolaidd:
dau ddos o'r brechlyn MMR (amddiffyniad rhag y frech goch, clwy'r pennau a rwbela)
un dos o'r brechlyn MenACWY (ar gael hyd at eich pen-blwydd yn 25 oed) (amddiffyniad rhag grwpiau Meningococol ACW&Y)
pum dos o'r brechlyn difftheria, tetanws a pholio
un ddos o'r brechlyn HPV (ar gael hyd at eich pen-blwydd yn 25 oed) *(amddiffyniad rhag y feirws papiloma dynol HPV)
*Gall dynion (geni ar neu ar ôl 01.09.2006) a menywod gael eu brechlyn HPV tan iddynt gyrraedd eu pen-blwydd yn 25 oed. Cynigir 3 dos o frechlyn HPV i bobl ifanc sydd â system imiwnedd wan neu sy'n HIV positif.
Gall dynion hoyw, deurywiol neu ddynion eraill sy'n cael rhyw gyda dynion (GBMSM) gael y brechlyn HPV hyd at 45 oed trwy wasanaethau iechyd rhywiol. I'r rhai 25 oed a throsodd, mae angen cwrs dau ddos o HPV.
Gall GBMSM hefyd fod yn gymwys i gael brechlynnau eraill i wella amddiffyniad rhag Hepatitis A a B, brech M a Gonoroea, siaradwch â'ch clinig iechyd rhywiol.
Os ydych chi mewn grŵp sydd mewn mwy o berygl o gael y ffliw a COVID-19, peidiwch ag anghofio trefnu i gael y brechlynnau hyn pan gewch chi eu cynnig.
Pan fyddwch yn cyrraedd y brifysgol dylech wneud y canlynol
Cofrestru gyda meddyg teulu cyn gynted a phosib– peidiwch ag aros nes bod gennych broblem.
Trefnu gyda’ch meddyg teulu i ddal i fyny ar unrhyw frechlynnau rydych wedi'u colli neu sy'n ddyledus.
Dylai pawb sy'n gallu cael eu brechu fanteisio ar y cynnig gan fod hyn yn helpu i amddiffyn nid yn unig chi, ond pobl agored i niwed sydd mewn perygl hefyd. Mae hyn yn cynnwys pobl na ellir eu brechu a phobl â system imiwnedd wan. Pan fyddwch chi'n cael brechlyn, gall leihau lledaeniad clefydau heintus. Mae hefyd yn gwella diogelwch i chi, eich teulu, eich ffrindiau a'r rhai rydych chi'n dod i gysylltiad â nhw.
Am ragor o wybodaeth am y brechiadau canlynol gweler y wybodaeth yma:
Mae rhagor o wybodaeth am frechlynnau eraill sydd ar gael yn Rhestr brechlynnau A i Y
Cysylltwch â'ch meddygfa yn gyntaf. Os nad ydych chi'n siŵr pa frechiadau rydych chi wedi'u cael, gwiriwch gyda nhw gan y dylai fod ganddyn nhw gofnod o'r holl frechiadau rydych chi wedi'u cael. Os nad yw eich cofnodion ar gael, neu os ydych chi'n meddwl eich bod wedi methu rhai brechlynnau, gwnewch apwyntiad i'w cael cyn gynted â phosibl.
Mewn rhai achosion, os nad oes hanes na chofnod dibynadwy o frechlynnau a roddwyd i chi o'r blaen, yna cynigir y brechlynnau coll i chi. Mae hyn er mwyn sicrhau’r amddiffyniad gorau
Os ydych chi wedi symud i ddinas newydd ar gyfer coleg neu brifysgol ac wedi cofrestru gyda meddyg teulu newydd, dylai fod ganddyn nhw eich cofnodion a gallant wirio eich hanes brechu.
Os oes amheuon gennych, mynnwch eich brechiadau a gwnewch yn siŵr eich bod wedi'ch amddiffyn yn llawn. Mae cael eich brechu'n llawn yn golygu bod gennych yr amddiffyniad gorau yn erbyn yr afiechydon difrifol yma. Nid oes unrhyw frechlyn yn gwbl effeithiol, felly dylech gadw llygad am unrhyw arwyddion a symptomau clefyd a gofalu am eich iechyd. Yna gallwch barhau i fwynhau popeth sydd gan y brifysgol i'w gynnig.
Rydyn ni eisiau i bawb fod yn iach a mwynhau eu hamser yn y coleg a'r brifysgol, ond gall cymysgu â phobl newydd gynyddu lledaeniad clefydau heintus.
Gall llawer o fyfyrwyr newydd ddal ‘ffliw'r glasfyfyrwyr’ a bydd angen iddynt orffwys. Gallwch gymryd meddyginiaeth dros y cownter fel parasetamol i'ch helpu i deimlo’n well.
Os oes gennych symptomau llid yr ymennydd neu sepsis, y frech goch neu glwy’r pennau dylech geisio cyngor meddygol yn gyflym. Gellir dod o hyd i arwyddion a symptomau llid yr ymennydd a sepsis yn meningitisnow.org (safle allanol, Saesneg yn unig).
Hefyd, gall gwybodaeth cael ei ffeindio ar wefan GIG 111 Cymru (safle allanol).
Gallwch ffonio 111 am gyngor dros y ffôn.
Mewn argyfwng meddygol, ffoniwch 999.
Os ydych yn sâl, dywedwch wrth rywun, yn ddelfrydol rhywun a all wirio eich bod yn iawn a ffonio am help os nad ydych yn iawn. Dylech ymddiried yn eich greddf, cadw mewn cysylltiad â’ch cymdogion a gofalu am eich gilydd.
Mae’r Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU wedi cyhoeddi pecyn cymorth (pecyn cymorth cyfathrebiadau ar frechlynnau i brifysgolion, colegau a lleoliadau addysg uwch eraill (safle allanol, Saesneg yn unig)) sydd ar gael i'w lawrlwytho. Mae'r pecyn cymorth yn cynnwys gwybodaeth ac adnoddau ar frechiadau i fyfyrwyr, a'r clefydau y maent yn amddiffyn rhagddynt. Mae'r pecyn cymorth hwn hefyd yn cynnwys dolenni i wybodaeth berthnasol i Gymru. Gallwch ddod o hyd i ragor o adnoddau imiwneiddio ar gyfer lleoliadau addysgol gan yr Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU yma (safle allanol, Saesneg yn unig).