Mae rhai o'r dolenni sydd wedi'u cynnwys yn yr wybodaeth hon yn arwain at gynnwys a grëwyd gan sefydliadau eraill ac efallai nad yw ar gael yn Gymraeg.
Ar y dudalen
Mae difftheria, tetanws, pertwsis (y pas), poliomyelitis, Hib (ffliw Haemophilus math b) a hepatitis B yn glefydau hysbysadwy.
Haint acíwt yw difftheria sydd fel arfer yn effeithio ar y nasoffaryncs. Achosir yr haint gan facteriwm Corynebacterium diphtheriae.
Mae'r organeb yn cael ei lledaenu gan ddefnynnau anadlol ac mae ganddi gyfnod magu o ddau i bum diwrnod. Gall cleifion ag afiechyd heb ei drin fod yn heintus am hyd at bedair wythnos, ond mae'n bosibl y bydd cludwyr yn trosglwyddo'r haint am gyfnod hwy.
Dyma nodweddion difftheria yn y llwybr anadlu uchaf:
Mae tetanws yn haint a nodweddir gan gyfangiadau poenus yn y cyhyrau. Mae'n cael ei achosi gan facteriwm Clostridium tetani a gall effeithio ar unigolyn o unrhyw oedran.
Mae'r organeb i'w chael ym mhobman yn yr amgylchedd ac mae'r cyfnod magu yn para rhwng pedwar a 21 diwrnod.
Nodweddir y clefyd gan anhyblygedd cyffredinol a gwingiadau yn y cyhyrau ysgerbydol. Mae anhyblygrwydd y cyhyrau fel arfer yn cynnwys yr ên (genglo) a'r gwddf ac yna mae'n mynd yn symptom cyffredinol.
Mae cyfradd y marwolaethau ymhlith achosion o’r haint yn amrywio o 10% i 90%; mae ar ei uchaf mewn babanod a'r henoed. Ni ellir byth ddileu tetanws oherwydd bod y sborau yn gyffredin yn yr amgylchedd, gan gynnwys y pridd. Nid yw tetanws yn cael ei ledaenu o berson i berson.
Haint anadlol yw pertwsis a nodweddir gan byliau sydyn a difrifol o beswch sy'n parhau am sawl wythnos. Mae'n cael ei achosi gan facteriwm Bordetella pertussis a all effeithio ar unigolion o bob oed, ond mae’n arbennig o ddifrifol mewn babanod a phlant ifanc, a gall achosi niwed i'r ymennydd oherwydd hypocsia yn ystod pyliau o beswch.
Mae'r organeb yn cael ei lledaenu trwy gyswllt uniongyrchol neu ddefnynnau anadlol yn yr awyr ac mae’r cyfnod magu yn para rhwng chwech ac 20 diwrnod.
Bydd fflem (catâr yn cronni) ar ddechrau'r afiechyd. Yna, bydd peswch llidus yn troi'n beswch gwasgfaol ymhen wythnos i bythefnos. Mae'r pyliau hyn yn aml yn arwain at 'hwpan' neu chwydu. Mewn babanod ifanc, efallai na fydd 'hwpan' yn digwydd. Gall plant hŷn ac oedolion brofi peswch parhaus heb symptomau arferol.
Mae polio (Poliomyelitis) yn haint a nodweddir gan barlys llipa acíwt. Mae'n cael ei achosi gan Boliofeirws math 1, 2 neu 3, a gall effeithio ar unigolion o bob oed.
Lledaenir yr organeb trwy'r llwybr ysgarthol-geneuol ac mae ganddo gyfnod yn para rhwng tri i 21 diwrnod.
Mae'r symptomau'n amrywio o dwymyn i lid yr ymennydd aseptig neu barlys. Mae symptomau posibl eraill yn cynnwys cur pen, amhariad ar y llwybr gastroberfeddol, anhwylder, ac anystwythder gwddf a chefn, gyda pharlys neu hebddo.
Mae ffliw Haemophilus math b yn facteriwm a all achosi heintiau difrifol, yn bennaf mewn plant o dan bum mlwydd oed, ond gall effeithio ar unigolion o unrhyw oedran. Mae'r organeb yn cael ei lledaenu gan ddefnynnau anadlol ac mae ganddi gyfnod magu o ddau i bedwar diwrnod.
Gall unigolion gario bacteria Hib yn eu trwynau a'u gyddfau heb ddangos arwyddion bod y clefyd ganddynt. Cyn i'r brechlyn Hib gael ei gyflwyno, roedd tua phedwar o bob 100 o blant cyn oed ysgol yn cario organeb Hib. Ar ôl i'r brechlyn gael ei gyflwyno, disgynnodd y cyfraddau cludo yn is na'r lefel canfod.
Mae cymhlethdodau haint Hib yn cynnwys llid yr ymennydd, epiglottitis a niwmonia.
Mae Hepatitis B yn haint ar yr afu a achosir gan feirws hepatitis B (HBV) sy'n effeithio ar bob grŵp oedran.
Mae'r organeb yn cael ei lledaenu trwy gyswllt gwaed-i-waed, cyswllt rhywiol a thrwy drosglwyddo amenedigol o'r fam i'r plentyn ac mae ganddi gyfnod magu o 45 - 160 diwrnod.
Gall llawer o unigolion sydd newydd gael eu heintio â hepatitis B brofi symptomau is-glinigol neu symptomau sy’n debyg i’r ffliw. Gall haint acíwt arwain at necrosis hepatig, sy'n aml yn angheuol.
Mae’r brechlyn 6-mewn-1 yn amddiffyn rhag difftheria, tetanws, pertwsis (y pas), poliomyelitis, Hib (Ffliw Haemophilus math b) a hepatitis B ac fe’i cyflwynwyd ar gyfer holl fabanod y DU a aned ar, neu ar ôl 1 Awst 2017.
Rhoddir y tri dos cyntaf o frechlyn sy'n cynnwys Hib ar 8, 12, ac 16 wythnos drwy’r brechlyn 6-mewn-1 (DTaP/IPV/Hib/HepB).
Daeth Menitorix© (Hib/MenC) i ben ar 30 Mehefin 2025. Menitorix© oedd pedwerydd dos brechlyn Hib yn yr amserlen arferol.
O ganlyniad i ddod â Menitorix© i ben, argymhellodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) sy’n cynghori Llywodraeth y DU ar faterion brechu, newidiadau i amserlen imiwneiddio plant yng Nghymru.
Mae argymhellion y JCVI, yn cynnwys:
O 1 Ionawr 2026
I gael rhagor o wybodaeth am newidiadau i amserlen imiwneiddio plant, sy’n cynnwys cwestiynau cyffredin, ewch i:
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am newidiadau i'r rhaglen frechu rheolaidd i blant ar ein gwefan yn: Newidiadau i'r amserlen imiwneiddio i blant - Gwybodaeth i weithwyr iechyd
Mae'r brechlyn 6-mewn-1 yn cael ei farchnata i'w ddefnyddio yn y DU o dan yr enwau brand Infarix hexa® a Vaxelis®.
Mae Infanrix hexa®yn frechlyn anweithredol ar ffurf powdr ac mae'n ddaliant y mae angen ei ailansoddi cyn rhoi pigiad. Mae Vaxelis®yn frechlyn a ddaw ar ffurf chwistrell wedi'i lenwi ymlaen llaw.
Mae canllawiau ar drin achosion tetanws a rheoli clwyfau a allai arwain at:
Mae rhagor o wybodaeth am y brechlyn ar gael ym mhenodau’r Llyfr Gwyrdd ar gyfer pob clefyd. Gweler yr adran adnoddau a gwybodaeth glinigol.
Mae canllawiau yn y Llyfr Gwyrdd yn disodli'r Crynodeb o nodweddion cynnyrch (SmPC).
Mae'n bwysig rhoi gwybod am adweithiau niweidiol a amheuir ar ôl awdurdodi'r cynnyrch meddyginiaethol. Mae'n caniatáu monitro parhaus o gydbwysedd mantais/risg y cynnyrch meddyginiaethol. Dylech roi gwybod am adweithiau niweidiol posibl o frechlynnau a meddyginiaethau ar-lein yn mhra.gov.uk/yellowcard (safle allanol, Saesneg yn unig), drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm).
Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod.
Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu - GOV.UK (safle allanol, Saesneg yn unig) (darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau JCVI; chwiliwch e.e.polio)
Canllawiau ar newidiadau i amserlen imiwneiddio plant yng Nghymru:
Mae’r Amserlen Imiwneiddio Rheolaidd Gyflawn ar gyfer Cymru ar gael ar ein gwefan yn: Amserlenni imiwneiddio arferol i Gymru ac mae’n cynnwys gwybodaeth am frechiadau arferol ac anarferol.
Gellir dod o hyd i bolisi a chanllawiau hefyd ar dudalen Polisi, llythyrau a Llywodraeth Cymru SharePoint Iechyd Cyhoeddus Cymru (mynediad i staff gofal iechyd y GIG)
Hepatitis B (HepB) – Gwybodaeth i weithwyr iechyd proffesiynol - Iechyd Cyhoeddus Cymru
Canllawiau i weithwyr iechyd proffesiynol ar drin a lleihau achosion o hepatitis. Cael gwared ar hepatitis (B a C) fel bygythiad i iechyd y cyhoedd: camau gweithredu ar gyfer 2022 i 2023 a 2023 i 2024 (WHC/2023/001) (safle allanol)
Llythyr i fyrddau iechyd ar y camau y mae angen iddynt eu cymryd i wneud cynnydd o ran dileu hepatitis B a C. Datganiad Ysgrifenedig: Cael gwared ar hepatitis B ac C fel bygythiad i iechyd y cyhoedd (3 Chwefror 2023) (safle allanol)
Gellir dod o hyd i gyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi am nifer o frechlynnau ac afiechydon ar y dudalen E-ddysgu Imiwneiddio.
Darperir rhagor o wybodaeth ac adnoddau hyfforddiant ar y dudalen Adnoddau a Digwyddiadau Hyfforddiant.
Gellir dod o hyd i dempliedi PGD ar y dudalen Gwasanaeth Cyngor ar Feddyginiaethau Cymru (safle allanol).
Mae gwybodaeth goruchwyliaeth brechu ar gael ar y tudalennau isod: