Neidio i'r prif gynnwy

Hepatitis B (HepB) – Gwybodaeth i weithwyr iechyd proffesiynol

Ar y dudalen yma:  

 

Cefndir        

Mae Hepatitis B yn haint ar yr iau / afu sy’n cael ei achosi gan feirws hepatitis B (HBV) sy’n gallu effeithio ar unrhyw grŵp oedran. Mae'r feirws Hepatitis B (HBV) yn cael ei gludo yn y gwaed a gall achosi llid yn yr iau / afu a gall achosi niwed tymor hir ac weithiau hyd yn oed, marwolaeth. Mae'r organeb yn cael ei lledaenu drwy gyswllt gwaed i waed, cyswllt rhywiol, trosglwyddo amenedigol o'r fam i'r plentyn ac yn anaml o frathiadau gan berson wedi’i heintio. Mae ganddo gyfnod deori o 40 i 160 diwrnod. 

Mae Hepatitis B yn afiechyd hysbysadwy

Gall Hepatitis B ddatblygu i fod yn gronig. Y diffiniad o Hepatitis B cronig yw pan fydd antigen arwyneb Hepatitis B (HBsAg) yn parhau yn y serwm am chwe mis neu fwy. Mae'r risg o ddatblygu Hepatitis B cronig yn dibynnu ar yr oedran pan gaiff pobl eu heintio. Mae 90% o'r rhai sydd wedi'u heintio yn union cyn neu ar ôl genedigaeth yn datblygu Hepatitis B cronig. Mae'n llai aml ymhlith y rhai sy’n cael eu heffeithio yn blant (mae'r risg ymhlith y rhai rhwng un a phump oed rhwng 20 a 50%) ac oedolion, er bod y risg yn uwch ymhlith y rhai sydd â nam ar y system imiwnedd. 

Gall 20 i 25 y cant o'r bobl sydd â Hepatitis B cronig ddatblygu afiechyd cynyddol ar yr iau / afu, a all arwain at sirosis, ac maent mewn mwy o berygl o ddatblygu carsinoma hepatogellog. 

 

Brechlyn 

Mae dau ddosbarth o gynhyrchion ar gael ar gyfer imiwneiddio rhag Hepatitis B. Mae imiwnoglobwlin Hepatitis B yn rhoi imiwnedd dros dro a goddefol wrth aros i'r brechlyn ymateb, a'r brechlyn Hepatitis B, sy'n rhoi imiwnedd gweithredol. 

Nid yw'r brechlyn Hepatitis B yn cynnwys organebau byw (mae'n anweithredol) ac ni all achosi'r afiechyd. Mae'n cael ei baratoi o gelloedd burum ac yn cael ei weithgynhyrchu gan dechnoleg DNA ailgyfunol. 

Mae’r brechlyn Hepatitis B yn cael ei gynnig i bob babi sydd wedi’i eni ar ôl 1 Awst 2017 fel rhan o amserlen frechu reolaidd y GIG (brechlyn “6-mewn-1”).   

Mae’r Rhaglen Imiwneiddio Reolaidd Gyflawn yn cynnwys gwybodaeth am frechlynnau rheolaidd ac afreolaidd.   


Imiwneiddio ar gyfer pobl sydd â risg uchel o Hepatitis B 

Brechlyn Hepatitis B yn ystod beichiogrwydd 

Gall haint Hepatitis B mewn merched beichiog arwain at afiechyd difrifol i’r fam a haint cronig i’r babi felly fe’ch cynghorir i beidio ag atal brechlyn hepatitis B i fenyw feichiog os yw hi mewn categori risg uchel. 

Nid oes unrhyw dystiolaeth o unrhyw risg o frechu merched beichiog neu fenywod sy'n bwydo ar y fron yn erbyn hepatitis B. Gan ei fod yn frechlyn anweithredol (wedi’i ladd), mae'r risgiau i'r babi heb ei eni yn debygol o fod yn fach iawn a dylid rhoi'r brechlyn hepatitis B pan mae risg bendant o haint. 


Babanod sy'n cael eu geni i famau sydd â Hepatitis B 

Yn ystod beichiogrwydd, cynigir sgrinio ar gyfer Hepatitis B i bob merch. Mae babanod sy'n cael eu geni i famau y canfyddir eu bod, yn dilyn sgrinio, wedi'u heintio'n gronig â feirws hepatitis B (HBV) neu sydd wedi cael hepatitis B acíwt yn ystod beichiogrwydd, mewn perygl o gael eu heintio â HBV. Yn ogystal â’r brechlynnau hepatitis B arferol, mae angen rhoi dosau ychwanegol o’r brechlyn hepatitis B i fabanod sy’n cael eu geni i famau sydd wedi’u heintio â hepatitis B ar enedigaeth, yn 4 wythnos ac yn 1 mlwydd oed. 

Mae rhai mamau sydd wedi’u heintio â hepatitis B yn cael eu hystyried yn famau â risg uchel arbennig oherwydd eu bod yn hynod heintus. Dylai babanod sy’n cael eu geni i’r mamau risg uchel hyn gael chwistrelliad o imiwnoglobwlin Hepatitis B (HBIG) adeg eu geni. Mae HBIG wedi'i wneud o waed ac mae'n cynnwys gwrthgyrff i hepatitis B. Mae'n rhoi amddiffyniad cyflym ond nid yw'n para'n hir. Bydd arnynt angen brechlyn Hepatitis B hefyd i roi amddiffyniad iddynt yn y tymor hwy. 

Dylai pob babi sy’n cael ei eni i fam sydd wedi’i heintio â hepatitis B gael prawf gwaed yn 12 mis oed i weld a yw wedi ei heintio â hepatitis B. 


Brechlyn Hepatitis B ar gyfer y rhai yr ystyrir eu bod ‘mewn perygl’ 

Mae pawb mewn grwpiau risg uchel yn cael cynnig y brechlyn hepatitis B hefyd. Mae rhai o’r grwpiau hyn yn cynnwys yr unigolion canlynol: 

  • pobl ag afiechyd cronig ar yr arennau (CKD cam 4 a 5, gan gynnwys haemodialysis) sydd angen Hepatitis B 

  • pobl ag afiechyd cronig ar yr iau / afu (er enghraifft y rhai sydd ag afiechyd difrifol ar yr iau / afu, fel sirosis o unrhyw achos, neu sydd ag afiechyd llai difrifol ar yr iau / afu ac a allai rannu ffactorau risg ar gyfer cael haint hepatitis B, fel unigolion sydd â hepatitis C cronig) 

  • pobl sy’n cael gwaed neu gynhyrchion gwaed yn rheolaidd (er enghraifft, unigolion sydd â hemoffilia, thalasaemia, neu anemia cronig arall) neu ofalwyr sy'n rhoi cynhyrchion o'r fath 

  • pobl sy’n chwistrellu cyffuriau 

  • pobl sy'n bartneriaid rhywiol, yn blant, neu'n gysylltiadau teuluol agos neu gartref â phobl sy'n chwistrellu cyffuriau (PWID) 

  • pobl sy’n newid partneriaid rhywiol yn aml, dynion sy'n cael rhyw gyda dynion (MSM) neu weithwyr rhyw masnachol 

  • pobl sy’n gysylltiadau cartref, teulu agos neu’n gysylltiadau rhywiol i unigolyn sydd â haint hepatitis B 

  • pobl sy'n aelodau o deulu sy'n mabwysiadu plant o wledydd sydd â lefel uchel neu ganolig o hepatitis B 

  • pobl sy’n, neu'n aelod agos o deulu neu'n rhannu cartref gyda gofalwyr maeth tymor byr sy'n derbyn lleoliadau brys 

  • pobl sy’n, neu'n aelod agos o deulu neu'n rhannu cartref â gofalwyr maeth parhaol sy'n derbyn plentyn sydd wedi'u heintio â hepatitis B 

  • pobl sy'n garcharorion mewn sefydliadau cystodaeth yn y DU, gan gynnwys y rhai sydd ar remand 

  • pobl sy’n preswylio mewn llety ar gyfer y rhai ag anableddau dysgu 

  • pobl sy’n oedolion neu'n blant sy'n mynychu gofal dydd, ysgolion, a chanolfannau ar gyfer y rhai ag anableddau dysgu ac, yn seiliedig ar asesiad risg lleol, sydd mewn perygl o ddod i gysylltiad drwy'r croen (fel brathu neu gael eich brathu) yn rheolaidd 

  • pobl sydd mewn perygl galwedigaethol yn unig o ddod i gysylltiad â hepatitis B 

  • pobl sy’n teithio i wledydd risg uchel 

 

Crynodeb o nodweddion cynnyrch  

Mae’r brechlyn Hepatitis B yn cael ei roi fel cynnyrch sengl neu gyfun:  

Dylid dewis cynnyrch brechlyn priodol ar gyfer y claf. 

Mae’r cyfarwyddyd o ran amserlen yn y Llyfr Gwyrdd pennod 18 yn disodli'r SmPC. 

Mae’r Rhaglen Imiwneiddio Reolaidd Gyflawn (PDF) yn cynnwys gwybodaeth am frechlynnau rheolaidd ac afreolaidd.   

 

Cyfarwyddyd  

Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld drwy ddilyn y dolenni isod. 

Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio - GOV.UK (darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau’r JCVI: chwilio e.e., Hepatitis B) 


Cylchlythyrau Iechyd Cymru a llythyrau Llywodraeth Cymru 

Ionawr 2023. Dileu hepatitis (B ac C) fel bygythiad iechyd cyhoeddus: camau gweithredu ar gyfer 2022 i 2023 a 2023 i 2024 (WHC/2023/001) 

Hydref 2017. Cyrraedd targedau Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar gyfer dileu hepatitis (B ac C) fel bygythiad arwyddocaol i iechyd cyhoeddus.  

2017. Cyflwyniad i’r brechlyn hecasafalent (“6 mewn 1”) gan gynnwys hepatitis B yn y rhaglen imiwneiddio reolaidd ar gyfer babanod sydd wedi’u geni ar neu ar ôl 1 Awst 2017. 

2017. Newid brechlyn ar gyfer y prif imiwneiddio rheolaidd i fabanod. 

 

Adnoddau a digwyddiadau hyfforddi  

Gellir cael mynediad i gyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi am nifer o frechlynnau ac afiechydon drwy'r dudalen E-ddysgu

Mae rhagor o wybodaeth ac adnoddau hyfforddi imiwneiddio ar gael ar y dudalen Adnoddau Hyfforddi a Digwyddiadau

 

Adnoddau clinigol a gwybodaeth  

Cyfarwyddiadau grŵp cleifion (PGDs) a phrotocolau 

Templedi PGD ar gyfer y brechlyn ar gael ar y dudalen Cyfarwyddiadau grŵp cleifion (PGDs) a phrotocolau.  

 
Adnoddau clinigol a gwybodaeth bellach  

 

Data a goruchwyliaeth 

Mae gwybodaeth goruchwylio brechlynnau ar gael ar y tudalennau isod:       

Os ydych chi’n ystyried y brechlyn hwn fel rhan o ddiogelu eich iechyd i deithio, edrychwch ar dudalen Brechlynnau Teithio Iechyd Cyhoeddus Cymru