Neidio i'r prif gynnwy

Gwyliadwriaeth ac epidemioleg pertwsis (y pas)

Epidemioleg

Fel arfer, mae gan nifer yr achosion o bertwsis batrwm cylchol gyda brigau mewn achosion bob tair i bedair blynedd. Y brig cyn 2012 yng Nghymru a Lloegr oedd yn 2008, gyda 902 o achosion wedi'u cadarnhau mewn labordy (PHE, 2013).  Yn 2012, cafwyd cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o bertwsis a nodwyd yn y DU (Kmietowicz, 2012), UDA (Canolfannau Atal a Rheoli Clefydau, 2015), Seland Newydd (Institute of Environmental Science and Research Ltd, 2012) ac Awstralia (Llywodraeth Gorllewin Awstralia, 2012). Yng Nghymru, cadarnhawyd 358 o achosion yn 2012, roedd 26 o achosion mewn babanod o dan un oed ac roedd 21 ohonynt o dan dri mis oed (PHE, 2013). Babanod o dan flwydd oed yw'r grŵp sydd fwyaf tebygol o ddioddef cymhlethdodau difrifol.

Yn ystod 2013 a 2014 gostyngodd nifer yr achosion o bertwsis a gadarnhawyd yng Nghymru cyn codi eto yn 2015 a 2016. Yn ystod 2017 a 2018 gostyngodd nifer yr achosion a gadarnhawyd i 171 ac 112 yn y drefn honno cyn cynyddu eto yn 2019 i 182 o achosion a gadarnhawyd. Mae'r rhan fwyaf o achosion mewn oedolion. Mae cadarnhad labordy o bertwsis mewn babanod o dan un oed yn ôl blwyddyn wedi gostwng yn gyson ers 2015, yn enwedig mewn babanod o dan 3 mis oed.

 

Pertwisis yng Ngymru: 2010-2022

Hysbysiadau

 

Cadarnhad labordy

Ffynhonnell: Data cadarnhau gan labordy cyfeirio UKHSA

Blwyddyn Nifer o achosion Cyfradd fesul 100,000 o'r boblogaeth
2010 14 0.46
2011 73 2.38
2012 358 11.65
2013 200 6.49
2014 115 3.72
2015 285 9.20
2016 255 8.19
2017 171 5.47
2018 112 3.57
2019 182 5.77
2020 37 1.17
2021 10 0.32
2022 5 0.16

Cyfradd fesul 100,000 o'r boblogaeth a nifer yr achosion o bertwsis a gadarnhawyd yng Nghymru o 2010-2022

Achosion a gadarnhawyd o bertwsis yng Nghymru yn ôl oedran

Ffynhonnell: Data cadarnhau gan labordy cyfeirio UKHSA
Blwyddyn dan 3 mis 3 i 5 mis 6 i 11 mis 1-4 5-9 10-14 15-24 25-34 35-44 45-64 65+ Pob oedran
2010 2 0 0 0 0 2 3 2 2 3 0 14
2011 25 0 1 2 2 1 7 7 11 15 2 73
2012 21 4 1 3 4 24 47 46 74 109 25 358
2013 6 2 0 1 7 21 26 22 37 62 16 200
2014 3 0 1 2 6 14 14 17 15 26 17 115
2015 10 2 1 13 18 36 31 30 45 69 30 285
2016 8 2 1 4 9 27 22 31 54 66 31 255
2017 5 1 1 2 4 12 17 16 31 57 25 171
2018 4 0 1 4 5 9 8 11 17 36 17 112
2019 0 0 1 8 15 19 9 20 27 57 26 182
2020 0 0 1 2 3 3 5 2 5 13 3 37
2021 0 0 0 0 0 0 0 0 4 4 2 10
2022 0 0 0 0 0 0 0 0 2 1 2 5

Achosion o bertwsis a gadarnhawyd yn 2018-2022 yn ôl chwarter dechrau

Ffynhonnell: Data cadarnhau gan labordy cyfeirio UKHSA
Chwarter Nifer yr achosion yn 2018 % o cyfanswm 2018 Nifer yr achosion yn 2019 % o cyfanswm 2019 Nifer yr achosion yn 2020 % o cyfanswm 2020 Nifer yr achosion yn 2021 % o cyfanswm 2021 Nifer yr achosion yn 2022 % o cyfanswm 2022
Jan-Mar 20 17.9 30 16.5 29 78.4 2 20 1 20
Apr-Jun 39 34.8 35 19.2 6 16.2 1 10 1 20
Jul-Sep 27 24.1 60 33 2 5.4 2 20 0 0
Oct-Dec 26 23.2 57 31.3 0 0 5 50 3 60

Imiwneiddio rhag pertwsis

Mae pertwsis yn glefyd y gellir ei atal drwy frechu. Mae'r brechlyn pertwsis wedi'i gynnwys yn y ‘pigiad 6 mewn 1’ DTaP/IPV/Hib/HepB a roddir i fabanod yn 2, 3 a 4 mis oed.

Gan fod imiwnedd rhag pertwsis yn pylu dros amser, mae pigiad atgyfnerthu wedi'i gynnwys hefyd yn y pigiadau atgyfnerthu ‘4 mewn 1’ cyn oed ysgol (a roddir rhwng 3 a 5 oed) gyda'r nod o leihau salwch mewn grwpiau oedran hŷn a thrwy hynny'n lleihau trosglwyddo pertwsis i fabanod heb eu brechu neu wedi'u brechu'n rhannol.

Oherwydd y cynnydd sylweddol yng nghyfraddau pertwsis yn ystod 2011/12, sefydlwyd rhaglen frechu i gynnig brechu pertwsis i bob mam feichiog yn y DU o wythnos 16 beichiogrwydd.Mae hyn er mwyn helpu i amddiffyn eu babanod newydd-anedig rhag y pas nes eu bod yn ddigon hen i gael eu brechiadau arferol sy'n dechrau o 8 wythnos oed.

Caiff nifer y rhai sydd wedi'u brechu a chwmpas imiwneiddio a argymhellir yn ystod plentyndod eu monitro a'u hadrodd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn chwarterol ac yn flynyddol yn lleol ac yn genedlaethol yn yr adroddiad  COVER (Gwerthusiad Cyflym o Roi Brechiadau). Cyhoeddir hwn yn chwarterol ac yn flynyddol.