Neidio i'r prif gynnwy

Difftheria, tetanws, pertwsis (y pas), polio, Haemophilus influenzae math b (Hib) a hepatitis B (DTaP/IPV/Hib/HepB, neu'r brechlyn '6-mewn-1') - Gwybodaeth i weithwyr iechyd proffesiynol

Ar y dudalen

 

Cefndir

Mae difftheria, tetanws, pertwsis (y pas), poliomyelitis, Hib (Haemophilus influenzae math b) a hepatitis B yn afiechydon hysbysadwy.

Difftheria

Haint acíwt yw difftheria sydd fel rheol yn effeithio ar y nasoffaryncs a achosir gan y bacteriwm Corynebacterium diphtheria, a gall effeithio ar bob oedran. Mae'r organeb yn cael ei lledaenu gan ddafnau anadlol ac mae ganddi gyfnod deor o ddau i bum diwrnod.

Tetanws

Mae tetanws yn haint a nodweddir gan gyfangiadau cyhyrol poenus. Mae’n cael ei achosi gan y bacteriwm Clostridium tetani a gall effeithio ar unrhyw oedran. Mae'r organeb yn hollbresennol yn yr amgylchedd ac mae ganddi gyfnod deor o un diwrnod i sawl mis.

Pertwsis (y pas)

Haint anadlol yw pertwsis a nodweddir gan byliau sydyn a difrifol o beswch sy'n para am sawl wythnos. Mae'n cael ei achosi gan y bacteriwm Bordetella pertussis a all effeithio ar bob oedran, ond sy'n arbennig o ddifrifol mewn babanod a phlant bach, a gall achosi niwed i'r ymennydd oherwydd hypocsia yn ystod parocsysmau o beswch. Mae'r organeb yn cael ei lledaenu drwy gyswllt uniongyrchol neu ddafnau anadlol yn yr awyr, ac mae ganddi gyfnod deor o 6 i 20 diwrnod.

Poliomyelitis

Mae polio (Poliomyelitis) yn haint a nodweddir gan ymddangosiad acíwt parlys llipa. Mae’n cael ei achosi gan Boliofeirws math 1, 2 neu 3, a gall effeithio ar bob oedran. Mae'r organeb yn cael ei lledaenu gan y llwybr ysgarthol-geneuol ac mae ganddi gyfnod deor o 7 i 14 diwrnod.

Hib (Haemophilus influenzae math b)

Mae afiechyd Hib yn ymddangos fel rheol fel llid yr ymennydd neu epiglotitis. Mae'n cael ei achosi gan y bacteriwm Haemophilus influenzae math b, ac mae'n effeithio'n bennaf ar blant o dan bum mlwydd oed, ond gall effeithio ar unrhyw oedran. Mae'r organeb yn cael ei lledaenu gan ddafnau anadlol ac mae ganddi gyfnod deor o ddau i bedwar diwrnod.

Hepatitis B

Mae Hepatitis B yn haint ar yr iau / afu a achosir gan feirws hepatitis B (HBV) sy'n effeithio ar bob grŵp oedran. Mae'r organeb yn cael ei lledaenu drwy gyswllt gwaed i waed, cyswllt rhywiol a thrwy drosglwyddo amenedigol o'r fam i'r plentyn, ac mae ganddi gyfnod deor o 45 - 180 diwrnod.

Y brechlyn

Yn 2017 newidiodd y DU y brechlyn ‘5-mewn-1’ am y brechlyn ‘6-mewn-1’. Roedd y brechlyn ‘5-mewn-1’ yn gwarchod rhag difftheria, tetanws, pertwsis, polio ac afiechyd Hib. Mae’r brechlyn ‘6-mewn-1’ yn gwarchod rhag hepatitis B hefyd ac fe’i cyflwynwyd ar gyfer holl fabanod y DU a anwyd ar neu ar ôl 1 Awst 2017.

Mae Infanrix hexa yn frechlyn anweithredol ar ffurf powdwr a hylif ar gyfer ei ail-greu cyn brechu. Mae Vaxelis yn frechlyn anweithredol chwistrelladwy mewn chwistrell wedi'i lenwi ymlaen llaw.

Gellir defnyddio Infanrix hexa neu Vaxelis i reoli anafiadau sy’n dueddol o arwain at detanws ymhlith plant dan 10 oed nad ydynt wedi cael eu prif gwrs o imiwneiddiadau sy’n cynnwys tetanws.           

Mae cyfarwyddyd ar drin achosion o detanws a rheoli briwiau sy'n agored i detanws ar gael yma: TetanusTetanws: cyngor i weithwyr iechyd.

Dylid rhoi tetanws imiwnoglobwlin yn gydredol yn unol â’r argymhellion swyddogol.

Crynodeb o nodweddion cynnyrch

Mae'r Amserlen Imiwneiddio Rheolaidd Gyflawn (PDF) yn cynnwys gwybodaeth am brechlynnau rheolaidd a'r rhai sydd ddim yn rheolaidd.

 

Canllawiau

Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod.

Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio - GOV.UK (darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau JCVI; chwiliwch am allweddeiriau e.e.: polio)

Cylchlythyrau Iechyd Cymru a llythyrau Llywodraeth Cymru

Rhaglen dal i fyny polio brys ar gyfer plant dan 5 oed (WHC/2022/027) Hydref 2022 | LLYW.CYMRU

Rhaglen imiwneiddio ar gyfer brechlyn hexavalent i fabanod (WHC/2017/039 | LLYW.CYMRU

Cyrraedd targedau Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer cael gwared ar hepatitis B a C (WHC/2017/048) | LLYW.CYMRU

Plant sydd wedi methu brechiadau rheolaidd: manyleb gwasanaeth cenedlaethol ychwanegol (WHC/2017/021) | LLYW.CYMRU

NES -  Imiwneiddio heb ei drefnu ar gyfer plant a phobl ifanc

 

Adnoddau a digwyddiadau hyfforddi

Gellir dod o hyd i gyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi am nifer o frechlynnau ac afiechydon ar y dudalen E-ddysgu Imiwneiddio.

Mae gwybodaeth ac adnoddau pellach am hyfforddiant imiwneiddio ar gael ar y dudalen Adnoddau hyfforddi a digwyddiadau.

 

Adnoddau a gwybodaeth glinigol

Difftheria – y llyfr gwyrdd, pennod 15

Tetanws – y llyfr gwyrdd, pennod 30

Pertwsis (y pas) - y llyfr gwyrdd, pennod 24

Polio – y llyfr gwyrdd, pennod 26

Haemophilus influenzae type b (Hib) - y llyfr gwyrdd, pennod 16

Hepatitis B - y llyfr gwyrdd, pennod 18

Y brechlun cyfun hecsafalent: canllawiau'r rhaglen

Tetanws: cyngor i weithwyr iechyd

Brechu unigolion sydd gyda statws imiwneiddio ansicr ney angyflawn - GOV.UK

Dai i fyny polio ymhlith plant dan 5 oed- Sgript Graidd i gefnogi sgyrsiau gyda rhieni/gwarcheidwaid Llywodraeth Cymru/Iechyd Cyhoeddus Cymru Hydref 2022

Cyfarwyddiadau grwpiau cleifion (PGDs) a gweithdrefnau

Gellir dod o hyd i dempliedi PGD ar y dudalen Cyfarwyddiadau Grwpiau Cleifion (PGDs) a Tudalen Glanio Protocolau.

Rhagor o adnoddau a gwybodaeth clinigol

Data a goruchwyliaeth

Mae gwybodaeth goruchwyliaeth brechu ar gael ar y tudalennau isod: