Neidio i'r prif gynnwy

Yr Egwyddor Datblygu Cynaliadwy a'r pum ffordd o weithio

Yn y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae’r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy yn golygu bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus ‘weithredu mewn modd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb gyfaddawdu ar allu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain’. 
I gymhwyso’r egwyddor hon, rhaid i gyrff cyhoeddus sicrhau eu bod yn dilyn y pum ffordd o weithio:

  1. Meddwl yn yr hirdymor – gweler adnoddau ‘Dyfodol’ Iechyd Cyhoeddus Cymru ac ‘Awgrymiadau Cenedlaethau’r Dyfodol’
  2. Atal problemau
  3. Integreiddio datblygu cynaliadwy i bob agwedd ar weithredu
  4. Cydweithredu rhwng adrannau, sefydliadau a sectorau
  5. Cynnwys defnyddwyr gwasanaeth, cymunedau a staff

Gwnaethom gynnal adolygiad llenyddiaeth ar y cyd â Phrifysgol Kingston i lywio'r ffordd orau o roi'r pum ffordd hyn o weithio ar waith:

Rhoi’r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy ar Waith: Gwersi o Adolygiad Llenyddiaeth o Roi’r Pum Ffordd o Weithio ar Waith