Neidio i'r prif gynnwy

Menywod beichiog a rhieni newydd

Mae'n naturiol teimlo amrywiaeth o emosiynau pan fyddwch yn feichiog, yn dod yn rhieni newydd neu'n rhiant i blentyn ifanc.  Mae newidiadau i'n gwasanaethau a'r arferion dyddiol wedi achosi straen a phryder ychwanegol i rai pobl.  Er mwyn helpu i leddfu eich pryderon, rydym wedi ateb rhai o'ch cwestiynau cyffredin.

I'ch cadw chi a'ch teulu'n ddiogel rhag coronafeirws, parhewch i ddilyn cyngor Llywodraeth Cymru ar gadw pellter cymdeithasol ac ynysu gartref.

Os oes gennych unrhyw symptomau eraill, neu unrhyw beth arall rydych yn poeni amdano, dylech gael help meddygol fel y byddech yn ei wneud fel arfer. Gallwch gael apwyntiadau meddyg teulu o hyd neu siaradwch â'ch bydwraig neu'ch tîm mamolaeth os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Ffoniwch eich bydwraig neu'ch tîm mamolaeth ar unwaith:

  • os yw eich babi yn symud llai nag arfer
  • os na allwch deimlo eich babi'n symud
  • os oes newid i batrwm symudiadau arferol eich babi
  • os oes gennych unrhyw waedu o'ch gwain
  • os ydych yn teimlo'n bryderus iawn neu'n poeni
  • os oes gennych gur pen nad yw'n mynd i ffwrdd
  • os byddwch yn fyr eich anadl wrth orffwys neu orwedd i lawr

Peidiwch ag aros tan y diwrnod wedyn – ffoniwch ar unwaith, hyd yn oed os yw'n ganol y nos.

Os nad oes gennych fydwraig neu dîm mamolaeth ffoniwch eich meddyg teulu neu Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 (neu 111 os yw ar gael yn eich ardal).

Os nad ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod yn teimlo'n ddiogel gartref ac angen help a chyngor, mae cymorth ar gael:

  • Bydd eich bydwraig neu'ch ymwelydd iechyd yn gallu rhoi cymorth penodol i chi a'ch babi
  • Gallwch ffonio Llinell Gymorth Byw Heb Ofn am ddim, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ar 0808 8010 800
  • Ewch i wefan Cymorth i Ferched Cymru i gael gwybodaeth

Os ydych chi neu eich babi mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999.