Neidio i'r prif gynnwy

Siarad â'ch plentyn am y coronafeirws

Mae bywyd wedi newid yn sylweddol i'r rhan fwyaf o blant, gyda'u trefn arferol wedi newid neu wedi dod i ben yn llwyr. Gall rhai plant fod yn teimlo'n bryderus neu'n ansicr oherwydd y wybodaeth y maent yn ei chlywed o'r newyddion a'r sgyrsiau rhwng eu rhieni neu oedolion eraill.  Fel rhieni, mae’n bwysig ein bod yn siarad â'n plant mewn ffordd dawel a gwybodus. Mae elusen Young Minds wedi llunio rhestr o awgrymiadau gwych i'ch helpu i siarad â'ch plentyn 

Ar gyfer plant iau efallai y byddwch am roi cynnig ar ddarllen llyfrau iddynt sy'n helpu i esbonio'r coronafeirws a'r mesurau a gymerwyd i'w reoli. Gallech roi cynnig ar ‘Don’t Worry Little Bear’ gan Early Years Story Box  neu ‘Coronavirus a book for children’ gan Axel Scheffler sydd wedi'i ysgrifennu ar gyfer plant oed ysgol gynradd.