Ydy. Mae'n dal yn ddiogel bwydo eich babi ar y fron. Ar hyn o bryd, nid oes tystiolaeth i awgrymu y gall y feirws gael ei gario neu ei drosglwyddo yn llaeth y fron. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod bwydo ar y fron yn lleihau'r risg o fabanod yn datblygu heintiau oherwydd bod eich llaeth y fron yn rhoi'r holl faetholion sydd eu hangen ar eich babi ac yn helpu i roi hwb i system imiwnedd eich babi.
Sicrhewch eich bod yn parhau i ymarfer hylendid da wrth fwydo eich baban. Gallai'r coronafeirws gael ei ledaenu i'ch babi yn yr un ffordd y gallai ledaenu i unrhyw un rydych mewn cysylltiad agos ag ef. Y brif risg wrth fwydo eich babi, boed hynny drwy fwydo ar y fron neu fwydo llaeth fformiwla, yw'r cysylltiad agos rhyngoch chi a'ch babi, oherwydd os byddwch yn peswch, gallai hyn gynnwys defnynnau sydd wedi'u heintio â'r feirws a gallai arwain at eich babi yn dal coronafeirws.
Am y rheswm hwn, pan fyddwch chi neu unrhyw un arall yn bwydo eich babi, argymhellir y rhagofalon canlynol:
Os ydych yn bwydo ar y fron yn rhannol ac am sicrhau bod eich cyflenwad llaeth yn parhau, un peth y gallwch ei wneud yw gwasgu llaeth o'r fron ar ôl pob bwydo atodol (potel), hyd yn oed os mai dim ond ychydig ydyw. Os ydych yn defnyddio pwmp bron i wasgu llaeth o'r fron yna sicrhewch eich bod yn dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr ar gyfer sterileiddio'r offer cyn ac ar ôl pob defnydd, yn ogystal â golchi eich dwylo. Os ydych yn rhy sâl i fwydo ar y fron ar unrhyw adeg a'ch bod yn gorfod newid i fwydo llaeth fformiwla, gofynnwch i'ch bydwraig neu ymwelydd iechyd sut i ailsefydlu bwydo ar y fron pan fyddwch yn teimlo'n iach.
Mae eich bydwraig a'ch ymwelydd iechyd yno i'ch cefnogi yn ystod eich beichiogrwydd, genedigaeth ac ym mlynyddoedd cynnar bywyd eich plentyn. Os oes gennych unrhyw bryderon am fwydo ar y fron, cysylltwch â nhw, byddant yn fwy na pharod i helpu, er y gallai gymryd ychydig yn fwy o amser iddynt ddod yn ôl atoch ar hyn o bryd.
Am mwy o wybodaeth am fwydo ar y fron a'r coronafeirws Cliciwch yma.
 phwy y gallwch siarad i gael rhywfaint o gymorth? Drwy rannu eich profiadau ag eraill mewn sefyllfa debyg, gallwch gefnogi eich gilydd a helpu i leihau unrhyw ofid neu bryder.
Mae llawer o rwydweithiau cymunedol ar-lein. Gofynnwch i’ch bydwraig neu'ch ymwelydd iechyd am fanylion os nad ydych yn gwybod sut i gysylltu â nhw. A dylech gysylltu â'ch bydwraig neu'ch ymwelydd iechyd os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch bwydo eich babi, gallant helpu dros y ffôn a byddant yn gallu eich gweld yn bersonol os oes angen.
Fideo bwydo ar y fron Everychild: Eich canllaw bwydo ar y fron fwyaf defnyddiol.
Rydym yn gwybod y gall hwn fod yn amser pryderus, ac efallai fod gennych bryderon penodol os ydych yn feichiog neu os oes gennych fabi.