Neidio i'r prif gynnwy

Ymarfer sgrinio Tonypandy wedi'i gwblhau: nid oes angen unrhyw gamau pellach

Cyhoeddwyd: 28 Tachwedd 2022

Gall Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg gadarnhau, yn dilyn yr ymarfer sgrinio twbercwlosis (TB) diweddar a gynhaliwyd yn nhafarn y Welcome Inn, Tonypandy, fod y dystiolaeth gychwynnol yn awgrymu nad oes angen cymryd camau pellach yn y dafarn.

Er bod nifer bach o unigolion wedi'u nodi y mae eu canlyniadau yn gyson â haint TB cudd, mae'r ymchwiliad wedi nodi bod unrhyw drosglwyddo yn y dafarn wedi bod yn gyfyngedig.

Mae'r unigolion a nodwyd wedi cael eu hysbysu a chael cynnig gofal a chymorth clinigol gan ddilyn canllawiau clinigol sefydledig.

Meddai Elizabeth Marchant, Ymgynghorydd Meddygol Locwm Diogelu Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“O ystyried y nifer bach iawn o achosion o haint TB cudd, nid ydym wedi argymell sgrinio pellach yn y dafarn, ond byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa.

“Oherwydd y niferoedd isel ac i ddiogelu preifatrwydd y rhai dan sylw, ni fyddwn yn rhoi diweddariadau pellach ar yr achosion hyn.

“Hoffwn ddiolch i'r Welcome Inn a chymuned Tonypandy am eu hamynedd a'u cymorth wrth i ni gynnal y sgrinio.”
Gofynnwn i'r cyhoedd barhau i fod yn effro i symptomau TB sy'n cynnwys:

  • Peswch parhaus hir,
  • Blinder a syrthni,
  • Tymereddau uchel / twymyn, chwysu yn ystod y nos 
  • Colli pwysau heb esboniad.

Os byddwch yn profi unrhyw rai o'r symptomau hyn, siaradwch â'ch meddyg teulu cyn gynted â phosibl.