Neidio i'r prif gynnwy

Rhybudd am y risg i iechyd yn sgil cyffuriau anghyfreithlon

Cyhoeddwyd: 17 Mehefin 2023

Mae arbenigwyr iechyd yng Nghymru yn pryderu am nifer y sylweddau sy'n cael eu prynu o  “fferyllfeydd ar-lein” fel y'u gelwir yn y gred eu bod yn gynhyrchion fferyllol cyfreithlon. 

Mae Adroddiad Blynyddol 2022-23 Prosiect Cyffuriau Newydd ac Adnabod Sylweddau Newydd Cymru (WEDINOS), yn dangos bod nifer y samplau sy'n cynnwys presenoldeb sylweddau “anhysbys” wedi parhau i godi. Dros y flwyddyn ddiwethaf, nid oedd 39 y cant o'r samplau a gyflwynwyd i WEDINOS, y gwasanaeth profi cyffuriau a gynhelir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn cynnwys yr hyn yr oedd y prynwr yn ei ddisgwyl. Mae hynny'n gynnydd o gymharu â 35 y cant yn 2021-22.

Bromazolam oedd y cyffur anghyfreithlon a nodwyd amlaf gan WEDINOS yn y gymuned y llynedd. Hwn hefyd oedd y sylwedd a oedd yn fwyaf tebygol o gael ei werthu o dan y gred bod y prynwr yn prynu cynnyrch gwahanol, sef diazepam fel arfer. Mae bromazolam yn gryfach na diazepam, felly byddai'r defnyddiwr, yn ddiarwybod, yn wynebu risg uwch o niwed a gorddos.
Mae arbenigwyr iechyd yn rhybuddio bod y cyffuriau hyn, sy'n aml yn cael eu prynu'n hawdd ar-lein, â goblygiadau difrifol i iechyd pobl gan nad oes ganddynt syniad beth maent yn ei gymryd mewn gwirionedd, nac ar ba ddos.

Meddai'r Athro Rick Lines, Pennaeth Camddefnyddio Sylweddau yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a WEDINOS “Mae'r canfyddiadau hyn yn tanlinellu pwysigrwydd WEDINOS i'r ymateb lleihau niwed yng Nghymru. Rydym yn unigryw yn y DU yn yr ystyr bod ein gwaith yn rhoi rhybudd cynnar ynghylch problemau yn y farchnad gyffuriau anghyfreithlon. Mae ein monitro yn galluogi gwybodaeth amserol a chywir ynghylch proffil cemegol samplau, ochr yn ochr â gwybodaeth briodol i leihau niwed, i wasanaethau camddefnyddio sylweddau a'r cyhoedd. Derbyniodd a dadansoddodd WEDINOS gyfanswm o 6,656 o samplau gan 74 o wasanaethau a lleoliadau ledled y DU y llynedd, yn ogystal ag unigolion.

Bensodiasepinau oedd y grŵp cemegol o sylweddau seicoweithredol a nodwyd amlaf am y pumed flwyddyn yn olynol. Bromazolam oedd y cyffur mwyaf cyffredin yn y grŵp hwnnw, wedi'i ddilyn yn agos gan MDMA a diazepam. Yn 2021, roedd 61 o farwolaethau oherwydd camddefnyddio cyffuriau yng Nghymru yn cynnwys bensodiasepinau, i fyny o 35 yn 2020.

Math arall o gyffur a nodwyd gan WEDINOS fel un sy'n cael ei amnewid yw Nitazines. Yn ystod y cyfnod mis Ebrill 2022 tan fis Mawrth 2023, cyflwynwyd 36 o samplau a gafodd eu proffilio fel rhai sy'n cynnwys nitazene ar ôl eu dadansoddi. Nid oedd unrhyw un o'r samplau hyn wedi'u cyflwyno gyda nitazene wedi'i restru fel y cyffur y bwriadwyd ei brynu. Cafodd 64 y cant (n=23) o'r samplau hyn eu cyflwyno yn y gred eu bod yn oxycodone. Cafodd 22 y cant (n=8) eu cyflwyno yn y gred mai'r bensodiasepinau alprazolam (n=7) a diazepam (n=1) oeddent. Cafodd y samplau hyn eu cyflwyno ar ffurf powdr melyn.

Mae ystadegau eraill o adroddiad blynyddol eleni, 2022/23 yn cynnwys:
 

  • Cynyddodd y samplau cymunedol i 4,979 o gymharu â 4,684.
  • Nodwyd 185 o sylweddau, cynnydd o gymharu â 181. 
  • Cyflwynwyd samplau gan 75 o sefydliadau, gwasanaethau a lleoliadau economi nos gwahanol. 
  • Oedran canolrif y rhai a roddodd samplau oedd 33 oed (ystod oedran 12 i 80 oed). 
  • Fel yn y pum mlynedd blaenorol, bensodiasepinau oedd y dosbarth mwyaf cyffredin o sylweddau seicoweithredol a nodwyd, gydag 18 wedi'u nodi.
  • Cocên oedd y sylwedd a nodwyd amlaf ymhlith yr holl samplau.
  • Y sylwedd a nodwyd amlaf mewn cyflwyniadau gan y gymuned oedd bromazolam, wedi'i ddilyn gan MDMA.
  • Mewn lleoliadau cyfiawnder troseddol – y Gweithydd Derbynnydd Canabinoid Synthetig (SCRA) MDMB-4en-PINACA oedd y sylwedd a nodwyd amlaf. Fodd bynnag, cafodd mwy o samplau eu proffilio fel rhai “heb gyfansoddyn gweithredol”

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn paratoi adroddiadau a gwybodaeth i ddylanwadu ar bolisi cenedlaethol a rhyngwladol i sicrhau ei fod yn seiliedig ar y dystiolaeth orau i ddiogelu a gwella iechyd.

Gall y rhai sy'n ceisio cymorth ar gyfer pryderon sy'n ymwneud â chyffuriau neu alcohol gysylltu â Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru ar radffon 0808 808 2234, drwy decstio DAN i: 81066 neu drwy fynd i dan247.org.uk


Ceir rhagor o wybodaeth am WEDINOS yn www.wedinos.org