Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r ffigurau swyddogol diweddaraf yn dangos effaith y pandemig yng Nghymru, gyda gostyngiad o fwy na chwarter o ran diagnosis o ganser y prostad

Cyhoeddwyd: 22 Mehefin 2023

Mae ystadegau swyddogol newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos effaith y pandemig ar ddiagnosis canserau blaenllaw yng Nghymru am y tro cyntaf. 

Yn 2020, wrth i wasanaethau gofal iechyd mewn sawl rhan o’r byd ganolbwyntio ar ymdrin â'r pandemig, gwelwyd gostyngiad yn nifer yr achosion newydd ar gyfer pum canser cyffredin a gafodd ddiagnosis yng Nghymru o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. 

Roedd y gostyngiad mwyaf o ran diagnosis ymhlith canser y prostad, gyda gostyngiad o 26.5 y cant.  Mae diagnosis o ganser y brostad yn dibynnu ar gleifion yn mynd i weld eu meddyg teulu a chael eu hatgyfeirio i'r ysbyty.  

Roedd gostyngiadau hefyd yng nghanran yr achosion o ganser y fron mewn menywod, a chanser y coluddyn, ar 17.2 y cant ac 16.7 y cant, yn y drefn honno.  Roedd y gostyngiad yng nghanser yr ysgyfaint yn llai ar 10.7 y cant, sef canser arall sy'n cael diagnosis sy'n seiliedig ar symptomau. Prin iawn oedd y newid yn y gyfradd canser yr ofari gyda gostyngiad o 1.6 y cant yn unig. 

Roedd y gostyngiad mwyaf o ran diagnosis o achosion newydd yn cyd-daro â chyfnod clo cyntaf y DU, ym mis Mawrth 2020, pan oedd gwasanaethau’r GIG yn canolbwyntio'n bennaf ar reoli cleifion COVID-19 a gofynnwyd i bobl aros gartref.  Ar draws y pum canser a ddadansoddwyd, roedd 2,214 yn llai o achosion newydd o ran cael diagnosis rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2020 o gymharu â'r cyfartaledd cyn y pandemig. 

Yn dilyn llacio'r cyfyngiadau'n rhannol ac ailddechrau gwasanaethau gofal iechyd nad ydynt yn ymwneud â Covid, roedd yr achosion o ddiagnosis newydd o ganserau'r coluddyn, yr ysgyfaint, y fron ymhlith menywod a chanserau'r ofari wedi amrywio dros weddill y flwyddyn, wrth i'r gwasanaethau ddechrau adfer i lefelau cyn y pandemig.   

Cafodd y pandemig effaith ar nifer yr achosion o ganserau'r coluddyn a chanser y fron ymhlith menywod a ganfuwyd mewn rhai grwpiau oedran, yn ogystal ag ar gam canser ar adeg diagnosis.  Ar gyfer canser y fron ymhlith menywod, roedd nifer yr achosion newydd a gafodd ddiagnosis ar gam 1 rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2020 wedi gostwng bron 40 y cant o gymharu â'r cyfartaledd cyn y pandemig. 

Meddai'r Athro Dyfed Wyn Huws, Cyfarwyddwr Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru (WCISU) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Dangosir effaith pandemig COVID-19 a'r cyfnodau clo, ar ddiagnosis canser am y tro cyntaf heddiw gan ddefnyddio data o ansawdd uchel cofrestrfa canser ar gyfer y boblogaeth gyfan. 

“Roedd y ffaith bod rhannau mawr o wasanaethau'r GIG yn canolbwyntio ar ymdrin â phandemig COVID-19, yr oedi mewn gwasanaethau sgrinio ar gyfer rhai canserau, ynghyd ag amharodrwydd dealladwy gan lawer o bobl i geisio cymorth y GIG ar ôl negeseuon ‘arhoswch gartref’, wedi arwain at ostyngiad mewn diagnosis o ganser, yn enwedig ar y camau cynnar – pan fo opsiynau triniaeth yn fwy, yn llai beichus i'r claf, ac yn fwy effeithiol.   

“Roedd yr adferiad i lefelau diagnosis cyn y pandemig yn amrywio rhwng y canserau, gyda chanser y fron ymhlith menywod yn adfer erbyn mis Medi 2020.  Ar y llaw arall, roedd diagnosis o ganser yr ysgyfaint a'r coluddyn wedi adfer i lefelau cyn y pandemig erbyn mis Gorffennaf 2020, ond yna gostwng yn is na'r cyfartaledd cyn y pandemig ym misoedd olaf 2020. 

“Bydd yn bwysig monitro tueddiadau o ran achosion a cham diagnosis gyda data cofrestrfa canser dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, er mwyn deall yn llawn effaith y pandemig ar bobl â chanser na chafodd ddiagnosis yn ystod 2020, neu a gafodd ddiagnosis ond ar gam diweddarach na'r arfer.” 

Meddai Dr Sharon Hillier, Cyfarwyddwr Sgrinio ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Fel gyda gweddill y DU ac mewn sawl rhan arall o'r byd, cafodd rhaglenni sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru eu hoedi am gyfnod pan oedd cyfyngiadau'r pandemig ar waith o fis Mawrth 2020.  Mae'n anochel bod hyn wedi arwain at ostyngiad yn y diagnosis cam cynnar o ganserau y mae rhaglenni sgrinio ar waith ar eu cyfer.   

“Yn ystod yr oedi o ran rhaglenni sgrinio, gweithiodd staff Bron Brawf Cymru gyda gwasanaethau sgrinio'r fron symptomatig mewn sawl bwrdd iechyd, gan gefnogi apwyntiadau asesu symptomatig yn safleoedd Bron Brawf Cymru. 

“Ailddechreuodd yr holl raglenni sgrinio canser yn haf 2020, mae ein timau wedi gweithio'n eithriadol o galed drwy gydol y pandemig i barhau i gynnig ein rhaglenni, i adfer eu hamseroldeb, cynnal amgylcheddau diogel lle gall sgrinio ddigwydd, ac annog pobl i fynd i'w hapwyntiadau. 

“Rydym hefyd yn gweithredu strategaeth tegwch yn Adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru, i sicrhau bod pawb sy'n gymwys i gael sgrinio yn cael mynediad teg a chyfle i fanteisio ar eu cynnig sgrinio gan ddefnyddio gwybodaeth ddibynadwy i wneud dewis gwybodus personol.” 

Y set hon o ystadegau swyddogol sy'n seiliedig ar ddata cywir cofrestrfa canser ar gyfer y boblogaeth gyfan yw'r gyntaf sydd wedi'i hychwanegu at ddangosfwrdd gwyliadwriaeth canser newydd WCISU. Yn ogystal â'r data cofrestru canser safon aur a ddefnyddir heddiw, yn fuan iawn, bydd niferoedd misol o ddiagnosis newydd o ganser sy'n seiliedig ar samplau patholeg yn unig yn cael eu cynnwys i roi gwybodaeth sy'n agosach at amser real i ddefnyddwyr.   

Mae'r dangosfwrdd yn dwyn ynghyd yr ystadegau achosion, goroesi a marwolaethau ar gyfer yr holl ganserau ac eithrio canser y croen di-felanoma, a fydd yn cael ei gynnwys mewn diweddariadau yn y dyfodol. 

Mae gan y pum safle canser blaenllaw – yr ysgyfaint, y fron, y colon a'r rhefr, yr ofari a'r prostad – eu rhan eu hunain o'r dangosfwrdd sydd ag ystadegau swyddogol wedi'u cynnwys rhwng 2002 a 2020.  Ceir adran hefyd sy'n edrych ar effaith y pandemig ar y pum math hyn o ganser. 

Gellir gweld y dangosfwrdd yma.