Neidio i'r prif gynnwy

Mae ymchwiliadau'n parhau yn dilyn achos wedi'i gadarnhau o TB yn Ysgol John Frost, Casnewydd.

4 Gorffennaf 2023 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Chyngor Dinas Casnewydd yn ymchwilio i un achos o dwbercwlosis (TB) mewn unigolyn sy'n gysylltiedig ag Ysgol John Frost yng Nghasnewydd.

Fel rhagofal, bydd yr holl ddisgyblion ac athrawon a gafodd gysylltiad â'r unigolyn yn cael cynnig sgrinio ar gyfer TB. Nid oes unrhyw beth i awgrymu bod yr achos wedi dal TB yn yr ysgol, yn hytrach maent wedi mynychu'r eiddo pan oedd ganddynt yr haint yn ddiarwybod iddynt. Nid oes achos brigiad o achosion wedi'i ddatgan.

Meddai James Adamson, Ymgynghorydd Dros Dro mewn Diogelu Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a chadeirydd y tîm rheoli digwyddiad amlasiantaeth:

“Yn dilyn gweithdrefnau rheoli haint sefydledig, rydym wedi nodi unigolion a allai fod wedi dod i gysylltiad â'r unigolyn dan sylw, cysylltwyd â'r unigolion hyn a chynnig sgrinio ar gyfer TB iddynt y gellir ei drin yn hawdd gyda chwrs o wrthfiotigau. Mae meddygon teulu lleol wedi cael gwybod.

“Mae hon y broses arferol, ac os caiff heintiau TB positif eraill eu nodi o ganlyniad i hyn, bydd triniaeth briodol yn cael ei chynnig.

“Mae'n anodd trosglwyddo TB. Mae angen cysylltiad agos a hir ag unigolyn heintus, er mwyn i berson gael ei heintio. Yn yr achos hwn, ac i gyfyngu ar ledaeniad posibl yr haint, rydym yn trin yr holl ddisgyblion ac athrawon a allai fod wedi cael cyswllt â'r unigolyn fel cysylltiadau personol agos.

“Byddwn yn pwysleisio bod y risg o haint â TB i'r cyhoedd yn parhau'n isel iawn. Fodd bynnag, rydym yn annog rhieni, disgyblion ac aelodau o staff i fod yn ymwybodol o'r symptomau.”

Mae symptomau TB gweithredol yn cynnwys:

  • Peswch parhaus sy'n para am fwy na thair wythnos ac sydd fel arfer yn creu fflem, a all fod yn waedlyd
  • Colli pwysau
  • Chwysu yn ystod y nos
  • Tymheredd uchel (twymyn)
  • Blinder
  • Colli archwaeth
  • Chwyddo yn y gwddf

Os oes unrhyw un sy'n gysylltiedig â'r ysgol wedi profi unrhyw rai o'r symptomau hyn neu'n pryderu am eu hiechyd, dylent siarad â'u meddyg teulu, neu ceir rhagor o wybodaeth am dwbercwlosis o wefan GIG 111 Cymru.