Neidio i'r prif gynnwy

Gwahodd cyfranogwyr i gymryd rhan mewn arolwg gweithgareddau hamdden

Cyhoeddus: 26 Hydref

Mae pobl dros 18 oed ac sy'n byw yng Nghymru yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn arolwg sy'n archwilio arferion gweithgareddau hamdden.  

Ym mis Ionawr 2023, cysylltodd Iechyd Cyhoeddus Cymru â'r Ganolfan Ymchwil Iechyd, Gweithgarwch a Lles (CAWR) ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd i gynnal darn o ymchwil i ddeall sut y mae unigolion ledled Cymru yn blaenoriaethu eu hamser hamdden a'r rhwystrau y mae rhai grwpiau'n eu profi wrth gael gafael ar weithgareddau sy'n diogelu llesiant meddyliol. 

Nod yr astudiaeth yw datblygu dealltwriaeth o lesiant meddyliol poblogaeth oedolion Cymru mewn cymunedau gwahanol a sut y mae hyn yn ymwneud â'r gweithgareddau hamdden y maent yn dewis cymryd rhan ynddynt. Bydd y data a gesglir yn cynorthwyo Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu rhaglen genedlaethol o waith i helpu i ddiogelu a gwella llesiant meddyliol ar draws y boblogaeth. 

Gall unrhyw un dros 18 oed ac sy'n byw yng Nghymru lenwi'r arolwg ar-lein. Mae cymryd rhan yn wirfoddol a gall cyfranwyr hepgor unrhyw gwestiynau nad ydynt am eu hateb.  

Dolen i'r arolwg http://bit.ly/3rhgWc4 (Cymraeg) http://bit.ly/3LryRDK (Saesneg)