Neidio i'r prif gynnwy

Gofal Iechyd Digidol: Iechyd Cyhoeddus Cymru yn lansio Strategaeth Ddigidol a Data newydd i wella hygyrchedd, ansawdd a diogelwch data iechyd

Cyhoeddig: 4 Hydref 2023

Bydd ein Strategaeth Ddigidol a Data newydd yn ein helpu i ddefnyddio pŵer technoleg ddigidol a data i ddiogelu a gwella iechyd a llesiant pobl yng Nghymru ac i leihau anghydraddoldebau iechyd. Mae'n rhan o'n Strategaeth Hirdymor (2023–35).

Rydym yn defnyddio technoleg ddigidol i ddarparu amrywiaeth eang o wasanaethau gofal iechyd gan gynnwys:

  • Gwasanaethau sgrinio iechyd
  • Cofrestrau clefydau ac iechyd
  • Gwyliadwriaeth clefydau trosglwyddadwy
  • Microbioleg a genomeg pathogen

Rydym hefyd yn creu ac yn rhannu cynhyrchion data fel ystadegau swyddogol, canfyddiadau cymdeithasol ac ymddygiadol ac ymchwil academaidd.

Mae'r strategaeth yn adeiladu ar y sylfeini cryf ar gyfer gwasanaethau digidol a gwyddor data sydd eisoes yn eu lle yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ond mae'n cydnabod bod rhagor o waith i'w wneud. Byddwn yn sicrhau bod ein gwasanaethau digidol yn diwallu anghenion ein defnyddwyr ledled Cymru ac yn canolbwyntio ar fod yn agored, symlrwydd a'r gallu i ryngweithredu. Byddwn yn sicrhau bod ein ffynonellau data o ansawdd uchel ac yn ddiogel fel y gallwn roi cyngor, arweiniad a mynediad at ddata

i bobl Cymru. Bydd hyn oll yn ei gwneud yn ofynnol cael mwy o gydweithio a rhannu â'n defnyddwyr a'n partneriaid.

Fel rhan o'r strategaeth, ein nod yw bod yn agored yn ddiofyn ac yn ddiogel drwy ddyluniad. Mae agored yn ddiofyn yn golygu y byddwn yn tybio y dylai cymaint o'r data a grëwn â phosibl fod ar gael. Mae diogel drwy ddyluniad yn golygu y byddwn yn ystyried ac yn rheoli'r risgiau diogelwch ar gyfer y data na ddylai fod yn agored o ddechrau darn newydd o waith.

Byddwn yn rhoi anghenion defnyddwyr yn gyntaf. Mae hynny'n golygu y byddwn yn cynllunio ac yn cynnal ein gwasanaethau fel y gall y bobl sy'n eu defnyddio gael yr hyn sydd ei angen arnynt a chael profiad cadarnhaol pan fyddant yn gwneud hynny.

Byddwn yn defnyddio safonau digidol a data cenedlaethol i sicrhau y gall pobl ddefnyddio a deall ein gwasanaethau digidol a data yn hawdd. Mae'r safonau hyn yn cynnwys:

Mae ein strategaeth yn mynegi gweledigaeth glir ar gyfer data gan gwmpasu casglu, storio, a phrosesu. Mae hyn yn golygu y gellir dod o hyd i'n data a'u defnyddio'n hawdd mewn amrywiaeth o fformatau agored, safonol fel y gellir eu hintegreiddio'n hawdd i wasanaethau eraill fel Cofnodion Iechyd Electronig neu'r systemau mewn meddygfeydd.

Gallwch ddysgu rhagor am ein strategaeth newydd yma.