Neidio i'r prif gynnwy

Dull Asesu'r Effaith ar Iechyd yn cynorthwyo cyrff sector cyhoeddus i ddatblygu addasiadau newid hinsawdd

Cyhoeddwyd: 3 Hydref 2023

Mae ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ynghyd â'r ymgynghoriaeth Urban Habitats, wedi dangos gwerth defnyddio Asesu'r Effaith ar Iechyd (HIA) wrth ddatblygu addasiadau i newid hinsawdd. 

Mae'r astudiaeth, Asesu'r Effaith ar Iechyd ar gyfer Addasu i Newid Hinsawdd: Enghreifftiau o Ymarfer, yn cynnwys amrywiaeth o astudiaethau achos, nid dim ond o Gymru ond o Ogledd America hefyd. 

Mae'r astudiaethau achos yn archwilio sut y gellir defnyddio dull HIA i sicrhau bod addasiadau i liniaru effeithiau newid hinsawdd yn diwallu anghenion grwpiau poblogaeth a daearyddiaethau penodol, sicrhau'r manteision mwyaf i iechyd a llesiant, atal risgiau anfwriadol i iechyd, ac osgoi ehangu anghydraddoldebau iechyd. 

Meddai Nerys Edmonds, Prif Swyddog Datblygu Asesu'r Effaith ar Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Rydym yn gwybod bod 82 y cant o bobl yng Nghymru yn poeni am newid hinsawdd, ac mae addasu i effaith newid hinsawdd hefyd yn flaenoriaeth i gyrff y sector cyhoeddus. 

“Mae'r rhan fwyaf o fuddsoddi ar addasu ar hyn o bryd yn digwydd y tu allan i'r sector iechyd, er enghraifft – mewn cynllunio trafnidiaeth a defnydd tir, ond mae ganddo lawer o oblygiadau ar gyfer iechyd a llesiant. Gall defnyddio HIA ar brosiectau addasu sicrhau'r manteision mwyaf posibl i iechyd a llesiant, ac atal effeithiau annymunol”.    

“Mae HIA yn darparu dull hyblyg a gellir ei gymhwyso mewn ffordd gymesur i anghenion cyd-destun penodol ar draws yr holl sectorau gwahanol lle mae camau gweithredu ar addasu i newid hinsawdd yn digwydd ac wedi'i gynllunio.  Mae hefyd yn darparu proses i gynnwys cymunedau wrth wneud penderfyniadau.  

“Mae’n offeryn effeithiol sy'n galluogi sefydliadau i gynllunio a gweithredu'r addasiadau sydd eu hangen arnynt i ymdrin â newid hinsawdd wrth ddiogelu iechyd.”