Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad ynghylch Ysgol Gynradd Victoria

Cyhoeddwyd: 2 Rhagfyr 2022

Meddai Dr Ardiana Gjini, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Chyngor Bro Morgannwg yn dilyn marwolaeth disgybl yn Ysgol Gynradd Victoria, Penarth.  Rydym yn cydymdeimlo'n ddwys â'r teulu, ffrindiau a phawb yr effeithir arnynt.

“Ni all Iechyd Cyhoeddus Cymru wneud sylw am achosion unigol, a gofynnwn i breifatrwydd y teulu gael ei barchu.

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio’n agos gyda’r ysgol i godi ymwybyddiaeth o glefyd Streptococol Grŵp A ymledol (iGAS). 

“Er ei bod yn annhebygol bod haint iGAS wedi effeithio ar eu plentyn, mae unigolion perthnasol yn cael eu cynghori y dylent ymgyfarwyddo â'r symptomau a beth i'w wneud os bydd y symptomau hyn yn digwydd.

“Mae dal clefyd iGAS o gyswllt yn brin iawn.  Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n dod i gysylltiad â Haint Streptococol Grŵp A yn aros yn iach ac yn rhydd o symptomau, neu'n datblygu heintiau gwddf ysgafn neu heintiau ysgafn ar y croen.” 

Mae symptomau iGAS yn cynnwys:

  • Twymyn (tymheredd uchel dros 38°C)
  • Golur gwddf neu donsilitis
  • Poenau difrifol yn y cyhyrau
  • Tynerwch cyfyngedig yn y cyhyrau
  • Cochni ar safle'r clwyf.

Mae grŵp o unigolion yn cael eu cynghori i gysylltu â'u meddyg  teulu neu gael cyngor meddygol heb oedi os ydynt yn credu bod gan eu plentyn unrhyw un o arwyddion a symptomau clefyd iGAS.

Atgoffir rhieni i ystyried brechlyn ffliw chwistrell drwynol i'w plant lle y bo'n briodol.