Neidio i'r prif gynnwy

Datblygu porth ar-lein 'Llygad Gwrthfiotig' yn galluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru i gael data lleol ar ymwrthedd gwrthficrobaidd

Cyhoeddwyd: 29 Mehefin 2023

Bydd datblygiad diweddar porth ar-lein ‘Llygad Gwrthfiotig’ yn galluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru i gael data mwy lleol ac amserol ar y sefyllfa ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) yn y cymunedau y maent yn gweithio ynddynt.

Yn hygyrch i unrhyw un sydd â Rhif Adnabod GIG Cymru, mae'r porth eisoes yn rhoi mynediad at ddata defnydd gwrthficrobaidd i ofal sylfaenol ac eilaidd. Mae adran ymwrthedd gwrthficrobaidd y porth eisoes wedi'i ddatblygu fel rhan o waith parhaus tîm Gwyliadwriaeth Gwrthficrobaidd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i lywio canllawiau gwrthficrobaidd a chynorthwyo stiwardiaeth gwrthficrobaidd.  

Mae'r porth wedi'i anelu at weithwyr gofal iechyd proffesiynol ym maes gofal sylfaenol ac eilaidd, yn enwedig y rhai sy'n rhagnodi neu'n cyflenwi cyffuriau gwrthficrobaidd.  Bydd yn galluogi defnyddwyr i gael gafael ar ddata ymwrthedd gwrthficrobaidd ar gyfer eu cymuned i lawr i lefel clwstwr meddygon teulu neu ysbyty. 

Meddai Eleri Davies, Pennaeth y Rhaglen Heintiau sy'n gysylltiedig â Gofal Iechyd, Ymwrthedd Gwrthficrobaidd a Rhagnodi (HARP):

“Mae angen sylw brys ar ymwrthedd gwrthficrobaidd gan fod gorddefnyddio gwrthfiotigau yn golygu eu bod yn mynd yn llai effeithiol ar gyfer trin heintiau cyffredin”. 

“Bydd y porth hwn yn galluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i gael mwy o wybodaeth am lefel yr ymwrthedd gwrthficrobaidd yn eu hardal, a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau clinigol priodol gyda rhagor o wybodaeth.” 

Gellir dod o hyd iddo yma, a gall staff GIG Cymru gael mynediad ato.