Neidio i'r prif gynnwy

Cynnydd yn y diagnosis o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yng Nghymru yn dilyn mynediad ehangach at brofion

12 Gorffennaf 2023.

Mae adroddiad blynyddol diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru ar iechyd rhywiol wedi dangos mwy o fynediad at brofion heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a manteisio ar y profion hynny.  Fel mewn rhannau eraill o’r DU mae hyn wedi golygu bod Cymru wedi gweld cynnydd yn y diagnosis a roddir o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, gyda chynnydd nodedig o ran diagnosis o gonorea, clamydia a siffilis.

Mae’r adroddiad, ‘Adroddiad Blynyddol Iechyd Rhywiol yng Nghymru 2023’, yn dangos cynnydd amlwg mewn profion a gynhaliwyd ers cyflwyno gwasanaeth profi drwy'r post, sy'n galluogi pobl i gynnal profion yn eu cartrefi eu hunain.

Mae profion drwy'r post ar gyfer heintiau a drosglwyddir yn rhywiol wedi bod yn arbennig o boblogaidd ymhlith y grwpiau oedran iau, 15-24 oed a 25-34 oed, ac mae'n golygu bod gan wyliadwriaeth heintiau a drosglwyddir yn rhywiol fwy o sensitifrwydd o ganlyniad. Mae mwyafrif yr achosion o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol sy'n cael diagnosis yn y grwpiau oedran hyn. 

Mae profion rheolaidd ar gyfer heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a HIV yn hanfodol i gynnal iechyd rhywiol da. Mae hyn yn sicrhau y gellir darparu triniaeth gynnar, yn ogystal ag osgoi lledaenu heintiau. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynghori y dylai pawb sy'n cael rhyw heb gondom gyda phartneriaid newydd neu achlysurol gael eu sgrinio am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol gan gynnwys prawf HIV o leiaf unwaith y flwyddyn, hyd yn oed os nad oes ganddynt unrhyw symptomau. 

Mae heintiau HIV newydd wedi bod yn gostwng dros y deng mlynedd diwethaf, gyda 60 diagnosis newydd yn 2022.  Mae'r nifer hwn yn cynrychioli gostyngiad o 56.5 y cant mewn diagnosis dros y degawd diwethaf. Profion HIV yw'r llwybr i gael mynediad at broffylacsis cyn-gysylltiad (PrEP) HIV y dangoswyd ei fod yn lleihau trosglwyddiad HIV. Os bydd claf yn cael diagnosis o HIV, mae'r driniaeth am ddim ar y GIG, yn effeithiol a gall pobl sy'n cael diagnosis prydlon ddisgwyl bywydau hir, iach.

Mae trin HIV yn effeithiol yn arwain at lefelau na ellir eu canfod o'r feirws, sydd hefyd yn golygu na ellir trosglwyddo HIV drwy ryw.

Yn ogystal â heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, mae’r adroddiad yn cynnwys data ar unigolion sy'n derbyn dull atal cenhedlu brys a gwrthdroadwy hirdymor mewn clinigau iechyd rhywiol ledled Cymru, yn ogystal â data ar derfynu beichiogrwydd ar gyfer rhai byrddau iechyd. Roedd nifer yr unigolion sy'n derbyn Dull Atal Cenhedlu Gwrthdroadwy Hirdymor (LARC – gan gynnwys dyfais mewngroth (IUD/IUS), mewnblannu neu bigiad) mewn clinigau iechyd rhywiol wedi gostwng 6% yn 2022 o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Bu cynnydd o 34% yn nifer yr unigolion sy'n derbyn triniaeth ToP yn y pum mlynedd hyd at 2021.

Dywedodd Josie Smith, Uwch-epidemiolegydd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y rhai sy'n cael profion drwy'r post ar gyfer heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yng Nghymru ymhlith grwpiau oedran iau. Fodd bynnag, mae mor berthnasol a phwysig i bobl hŷn.  Mae profion drwy'r post yn ddull am ddim a hawdd i'w ddefnyddio, sy'n golygu y gall unigolion gael mynediad cyflym at driniaeth yn ôl yr angen.

“Mae profion drwy'r post am ddim, ac ar gael i unrhyw un yng Nghymru sy'n 16 oed a throsodd a dangoswyd eu bod yn dderbyniol iawn, gan arwain at nodi nifer uwch o heintiau.  Bellach mae gennym ddarlun cliriach o nifer yr heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yng Nghymru, a bydd y wybodaeth hon yn helpu i ddatblygu gwasanaethau.

“Hoffem achub ar y cyfle hwn i atgoffa pobl y gallant gael mynediad at brofion, condomau am ddim a dulliau atal cenhedlu brys drwy lwybrau amrywiol yng Nghymru. Mae profion ar gael drwy wasanaethau iechyd rhywiol, profion drwy'r post ar-lein neu feddygon teulu. Mae condomau am ddim ar gael drwy'r gwasanaeth post neu os ydych yn 13-25 oed drwy'r cynlluniau Cerdyn C.  Gallwch gael mynediad at ddulliau atal cenhedlu brys am ddim, hyd yn oed os ydych o dan 16 oed, o wasanaethau iechyd rhywiol a'r rhan fwyaf o fferyllfeydd cymunedol.