Neidio i'r prif gynnwy

Annog myfyrwyr prifysgol i roi brechu ar eu rhestr o bethau i'w gwneud er mwyn osgoi salwch difrifol

Cyhoeddig: 21 Medi 2023

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog myfyrwyr newydd a phresennol sy'n cyrraedd yn y brifysgol yr hydref hwn i sicrhau eu bod wedi cael eu holl frechiadau plentyndod, ac felly osgoi salwch difrifol fel llid yr ymennydd, y frech goch a septisemia. 

Gyda llawer o bobl newydd yn dod at ei gilydd mewn amgylcheddau cyfyng a chymysgu agos, gall prifysgolion fod yn fannau problemus i heintiau difrifol ledaenu. Drwy gael eu brechu, gwybod symptomau llid yr ymennydd, y frech goch a septisemia, a chofrestru gyda meddyg teulu sy'n agos at y brifysgol gall myfyrwyr prifysgol leihau eu siawns o fynd yn ddifrifol wael. 

Mae'r neges yn cael ei chefnogi gan Levi Lawrence, myfyriwr seicoleg 21 oed o Wolverhampton, a ddaliodd lid yr ymennydd yn ei dymor cyntaf ym Mhrifysgol Abertawe y llynedd a bu'n ddifrifol wael o ganlyniad i hynny. 

“Nid oeddwn yn teimlo'n rhy dda am ychydig wythnosau, ac roeddwn yn credu mai ffliw'r glasfyfyrwyr oedd yn gyfrifol am hyn” meddai Levi.  “Ond un bore dihunais yn teimlo'n sâl iawn, roeddwn yn chwydu ac yn ddryslyd, ac yn fuan iawn cyrhaeddais y pwynt lle nad oeddwn yn gallu siarad mewn gwirionedd a braidd yn gallu cerdded.  Aeth fy nghydletywr â mi i'r ysbyty yn gyflym, ac rwy'n credu bod ei gweithredoedd cyflym wedi achub fy mywyd.  

“Treuliais ddeg diwrnod yn yr ysbyty gyda llid yr ymennydd a sepsis, ac roeddwn yn sâl iawn.  Roedd yn gyfnod brawychus iawn, cefais broblemau gyda fy nghoesau a oedd yn golygu fy mod ar faglau am wythnosau wedyn ac rwy'n dal i gael poenau tebyg i sioc drydanol yn fy nghoesau nawr.” 

Mae stori Levi yn ein hatgoffa’n glir o effaith clefydau heintus fel llid yr ymennydd, a sut y gallant wneud pobl yn ddifrifol wael ac achosi tarfu enfawr ar fywydau pobl. 

Meddai Dr Chris Johnson, Pennaeth Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae profiad Levi yn dangos mor bwysig ydyw i fyfyrwyr a phobl ifanc sicrhau eu bod wedi cael eu brechiadau rheolaidd diweddaraf, yn ddelfrydol cyn gadael i fynd i'r brifysgol neu cyn gynted â phosibl ar ôl iddynt gyrraedd yno. 

“Mae brechiadau plentyndod arferol yn ddiogel ac yn effeithiol, ac yn amddiffyn yn erbyn canlyniadau difrifol clefydau heintus sydd mor aml ar led ymhlith pobl ifanc sy'n dechrau yn y brifysgol.   

“Mae cyflwyno'r brechlynnau llid yr ymennydd C, sy'n cynnwys y brechlyn MenACWY a roddir i bobl ifanc yn eu harddegau, wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac mae wedi lleihau nifer yr achosion a achosir gan Lid yr Ymennydd C 90 y cant. 

“Mae'n bwysig iawn bod pobl ifanc yn sicrhau eu bod yn cael y brechlynnau hyn, sy'n eu hamddiffyn rhag salwch difrifol ac yn eu galluogi i gario ymlaen â mwynhau'r cam newydd hwn yn eu bywyd. 

“Mae llawer o bobl ifanc nad ydynt yn ymwybodol o ba frechlynnau y maent wedi'u cael pan oeddent yn blant, felly mae'n bwysig bod unrhyw ddosau a gollwyd yn cael eu diweddaru er mwyn sicrhau'r amddiffyniad gorau posibl. 

“Gallant wirio a ydynt wedi cael eu brechiadau diweddaraf, a dal i fyny ag unrhyw ddosau sydd ar goll, drwy gysylltu â'u meddyg teulu neu wasanaethau plant eu bwrdd iechyd lleol.” 

Dyma'r brechlynnau GIG am ddim sydd ar gael i blant a phobl ifanc yng Nghymru: 

  • Brechlyn MMR (y frech goch, clwy'r pennau a rwbela) 

  • Brechlyn MenACWY (sy'n diogelu yn erbyn 4 math o glefyd meningococol) 

  • Brechlyn HPV i fyfyrwyr benywaidd, sy'n amddiffyn yn erbyn canser ceg y groth a chanserau eraill a achosir gan y feirws papiloma dynol (HPV) ynghyd â defaid gwenerol 

  • Brechlyn atgyfnerthu Td/IPV sy'n amddiffyn erbyn difftheria, tetanws a pholio. 

Mae myfyrwyr hefyd yn cael eu hannog i adnabod symptomau salwch o'r fath a cheisio cymorth meddygol ar unwaith os byddan nhw neu rywun y maent yn ei adnabod yn dangos y symptomau hyn.   

Nid yw'r brechlyn yn amddiffyn yn erbyn pob straen o glefyd meningococol, felly mae angen i bobl wybod y symptomau hyd yn oed os ydynt wedi cael eu brechu.  Prif symptomau llid yr ymennydd yw:  

  • Twymyn sy'n dechrau'n sydyn  

  • Cur pen/pen tost  

  • Gwddf anystwyth. 

Yn aml mae symptomau eraill hefyd, fel 

  • Cur pen/pen tost gyda chyfog neu chwydu 

  • Llai o archwaeth 

  • Dryswch neu anhawster canolbwyntio 

  • Twymyn sydyn 

  • Cur pen/pen tost difrifol sy'n ymddangos yn wahanol i'r arfer 

  • Ffitiau 

  • Sensitifrwydd i olau 

  • Bod yn gysglyd 

  • Syrthni 

  • Brech ar y croen 

Prif symptomau septisemia yw: 

  • Chwyddo cyffredinol yn y corff 

  • Curiad calon cyflymach 

  • Cynhyrchu llai o wrin 

  • Twymyn ac oerfel 

  • Gostyngiad mewn cyfrif platennau 

  • Anhawster anadlu 

  • Dryswch meddyliol 

  • Goranadlu 

Prif symptomau'r frech goch yw:  

  • Symptomau tebyg i annwyd  

  • Llygaid coch sy'n brifo 

  • Tymheredd uchel a; 

  • Brech flotiog frowngoch.   

Mae oedolion ifanc hefyd yn cael eu hatgoffa o bwysigrwydd cofrestru gyda meddyg teulu yn eu hardal newydd, fel y gallwch sicrhau eich bod yn gallu cael gafael ar gymorth meddygol yn gyflym ac yn hawdd pan fyddwch yn y brifysgol, gan gynnwys cael apwyntiadau meddyg teulu ac archebu meddyginiaeth reolaidd.  Ni fydd cofrestru yn lleol yn atal myfyrwyr rhag cael mynediad at ofal iechyd gan feddygon teulu pan fyddant yn dychwelyd adref ar gyfer y gwyliau. 

Gyda phwysau cynyddol ar y GIG y gaeaf hwn, mae'n bwysicach nag erioed gwneud popeth y gallwch i gadw'n iach a gofalu am y rhai o'ch cwmpas. I'r rhai sy'n gymwys, cael eich brechu yn erbyn ffliw a COVID-19 yw'r amddiffyniad gorau yn erbyn salwch difrifol. Mae yna hefyd rai camau gweithredu syml y gallwch eu cymryd i leihau eich siawns o fynd yn sâl a helpu i amddiffyn eraill. Gall golchi eich dwylo â sebon a dŵr am 40 eiliad drwy gydol y dydd helpu i atal lledaeniad clefyd a feirysau cyffredin. Os ydych yn dangos symptomau o fod yn sâl, cyfyngwch ar eich cyswllt ag eraill a allai fod yn agored i niwed.