Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad yn galw am adnoddau brechlyn wedi'u targedu i fynd i'r afael â phetruster a chamwybodaeth

Cyhoeddig: 17 Hydref 2023

Mae astudiaeth ddiweddar a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod pobl ifanc, rhieni plant o dan 18 oed, y rhai sy'n derbyn Credyd Cynhwysol a phobl sy'n nodi eu bod yn drawsryweddol yn fwy tebygol o ddod i gysylltiad â chamwybodaeth am frechlynnau ar-lein. Canfu'r adroddiad hefyd fod 89 y cant o ddefnyddwyr gwasanaethau yn nodi eu bod wedi gweld camwybodaeth sy'n gysylltiedig â brechlynnau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.  

Taflodd yr astudiaeth oleuni ar gyffredinrwydd gwybodaeth gamarweiniol am frechu a'r angen am adnoddau wedi'u targedu i fynd i'r afael â phetruster brechu.  

Canfu'r adroddiad Gwerthusiad o Adnoddau Gwybodaeth am Frechu fod oedolion ag anableddau, unigolion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, a rhieni plant o dan 18 oed yn dangos lefelau is o hyder o ran diogelwch brechlynnau.  

Mae argymhellion yr adroddiad yn cynnwys gweithredu adnoddau wedi'u teilwra sy'n rhoi sicrwydd am ddiogelwch brechlynnau ac yn mynd i'r afael â phryderon sy'n benodol i gymunedau. Rhaid i'r adnoddau hyn fod ar gael yn hawdd, gyda'r nod o annog mwy o bobl i fanteisio ar frechu.  

Mewn ymateb i bandemig Covid-19, mae'r galw am adnoddau sy'n gysylltiedig â brechlynnau wedi cynyddu'n sylweddol. Ceisiodd yr astudiaeth asesu ymwybyddiaeth ac effeithiolrwydd adnoddau brechu Iechyd Cyhoeddus Cymru drwy gasglu adborth gan ddefnyddwyr gwasanaethau a grwpiau defnyddwyr.  

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydnabod yr angen i wahaniaethu ei adnoddau gwybodaeth i ddal sylw'r cyhoedd. Drwy deilwra'r cynnwys a chyflwyno'r adnoddau hyn, nod Iechyd Cyhoeddus Cymru yw sicrhau eu heffaith fwyaf posibl, gan feithrin gwneud penderfyniadau gwybodus ac annog pobl i fanteisio ar frechu.  

Meddai Jasmin Chowdhury, Uwch-ymarferydd Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae canfyddiadau'r astudiaeth hon yn amlygu'n glir bwysigrwydd adnoddau unigryw wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer grwpiau poblogaeth penodol a'r angen am yr adnoddau hyn i fynd i'r afael â chamwybodaeth a phetruster brechu, yn enwedig ar adeg pan all camwybodaeth ledaenu'n gyflym iawn ar-lein.  

“Mae'r adroddiad hwn yn chwarae rhan hanfodol wrth wella strategaethau cyfathrebu ac adnoddau, a datblygu ein cenhadaeth i ddiogelu iechyd cyhoeddus drwy gynyddu nifer y rhai sy'n cael eu brechu drwy helpu unigolion i wneud penderfyniadau gwybodus.”  

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn bwriadu defnyddio'r canfyddiadau'r hyn i wella cyfathrebu cyhoeddus ymhellach a datblygu adnoddau sy'n mynd i'r afael â phetruster brechu a chamwybodaeth.