Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad newydd yn nodi effeithiau posibl cytundeb masnach Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) ar iechyd, llesiant a chydraddoldeb yng Nghymru

Mae dadansoddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn canfod y gallai'r telerau sy'n caniatáu i'r DU ymuno â bloc masnachu mawr yn ardal Cefnfor India a'r Môr Tawel ei gwneud yn fwy anodd i Gymru gymryd camau gweithredu iechyd cyhoeddus cryf yn y dyfodol i ddiogelu iechyd a llesiant.  

Daw'r canfyddiadau o Asesiad o'r Effaith ar Iechyd cytundeb masnach Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) – dim ond yr ail ddadansoddiad o'r fath o gytundeb masnach i'w gynnal yn fyd-eang.  

Gallai telerau'r cytundeb CPTPP ganiatáu i fuddsoddwyr tramor gymryd camau cyfreithiol yn erbyn cyfreithiau iechyd cyhoeddus newydd a grëwyd gan Lywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU os ydynt o'r farn eu bod yn cael effaith negyddol ar eu busnes. Gall ofn y gellid dod â heriau cyfreithiol, a chost eu hymladd, arwain at ‘oerfel rheoliadol’, lle mae llywodraethau yn cael eu rhwystro rhag cynnig cyfreithiau newydd yn y lle cyntaf. 

Canfu'r Asesiad o'r Effaith ar Iechyd effeithiau economaidd cadarnhaol posibl a allai gynnig gwelliannau o ran iechyd a llesiant i rai grwpiau o bobl yng Nghymru, ond y byddai angen i'r rhain gael eu gorbwyso gan niwed posibl arall. Roedd y rhai yng Nghymru ar incwm is ymhlith y grwpiau poblogaeth a nodwyd fel rhai sy'n fwy tebygol o brofi effeithiau negyddol posibl.  

Mae'r Asesiad o'r Effaith ar Iechyd yn ystyried effeithiau tymor byr a hirdymor posibl ac yn nodi y gallai llywodraethau yn y dyfodol ddiystyru'r sicrwydd a roddir gan weinidogion presennol. Os bydd rheoliadau'n cael eu hisraddio ar unrhyw adeg ar ôl ymuno â'r CPTPP, er enghraifft, yna byddai'r cytundeb yn eu hatal rhag cael eu hadfer neu eu gwella.  

Mae'r Asesiad o'r Effaith ar Iechyd yn galw am fwy o dryloywder ynghylch manylion cytundebau masnach ar gamau cynharach a rhagor o ymchwil i'r cysylltiadau rhwng telerau masnach ac iechyd. Mae'n amlygu gwerth Asesiadau o'r Effaith ar Iechyd, fel offeryn iechyd cyhoeddus sefydledig, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ar gyfer helpu llunwyr polisi i ddeall effaith lawn cytundebau masnach ar iechyd a llesiant yng Nghymru a'r DU gyfan. 

Roedd yr Asesiad o'r Effaith ar Iechyd yn seiliedig ar dystiolaeth a gwybodaeth a oedd ar gael i'r cyhoedd tan fis Mehefin 2023.  

Meddai Dr Liz Green, Cyfarwyddwr y Rhaglen Asesu'r Effaith ar Iechyd yng Nghanolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae'r Asesiad o'r Effaith ar Iechyd yn offeryn gwerthfawr ar gyfer gwerthuso sut y gallai cytundebau masnach effeithio ar gymunedau a phoblogaethau gwahanol ledled Cymru. 

“Mae'n galluogi llunwyr polisi a chomisiynwyr i ragweld effeithiau cytundebau masnach, fel CPTPP, ar iechyd, llesiant a chydraddoldeb, a deall pa gamau gweithredu y gallai fod eu hangen i liniaru risgiau posibl a sicrhau'r cyfleoedd mwyaf posibl yn awr ac yn y tymor hwy. 

“Rydym yn cydnabod bod effeithiau'r CPTPP ar Gymru yn rhai posibl yn hytrach na gwirioneddol ar y cam hwn, gan nad yw aelodaeth y DU wedi'i chadarnhau ar ei ffurf derfynol ac oherwydd bydd goblygiadau llawn ymuno â'r cytundeb yn cymryd amser i ddod i'r amlwg a gallent newid o dan wahanol lywodraethau. Edrychwn ymlaen at y cyfle i adolygu canfyddiadau'r Asesiad o'r Effaith ar Iechyd yng ngoleuni telerau llawn y cytundeb derbyn unwaith y bydd hwn ar gael i'r cyhoedd.  Rydym yn gobeithio y bydd llawer o'r agweddau negyddol posibl a nodwyd wedi cael sylw yng nghamau olaf y trafodaethau. 

 

“Rydym yn gobeithio y bydd rhannu canfyddiadau'r dadansoddiad hwn nawr yn helpu i ddangos gwerth Asesiad o'r Effaith ar Iechyd fel offeryn ar gyfer galluogi ystyriaeth lawn o effeithiau posibl cytundebau masnach ar iechyd a llesiant, a chodi ymwybyddiaeth o effeithiau posibl y CPTPP yn benodol ar iechyd a llesiant cyn trafodaethau ynghylch y cytundeb masnach hwn sydd i ddod.” 

Effaith Cytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) ar iechyd, llesiant a thegwch yng Nghymru.