Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Deintyddol Cyhoeddus

Mae’r Tîm Iechyd Deintyddol Cyhoeddus yn darparu arweinyddiaeth, cyngor a chymorth strategol er mwyn gwella gwasanaethau iechyd y geg a deintyddol. Mae’r tîm yn gweithio mewn partneriaeth â byrddau iechyd, Llywodraeth Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru a rhanddeiliaid eraill yng Nghymru a thu hwnt.

 

Mae’r Tîm yn darparu:

  • Arweinyddiaeth a chymorth i raglenni gorchwylio iechyd y geg.
  • Arweinyddiaeth a chymorth i raglenni sy’n anelu at wella iechyd y geg y boblogaeth a chanlyniadau gwasanaethau deintyddol.
  • Cyngor a chymorth i ddatblygu polisïau a strategaethau iechyd y geg a gwasanaethau deintyddol.
  • Cyngor a chymorth er mwyn asesu anghenion iechyd y geg yn lleol.
  • Cyngor a chymorth er mwyn rhoi cynlluniau gweithredu iechyd y geg ar waith yn lleol ac yn genedlaethol.
  • Cyngor a chymorth er mwyn gwella ansawdd a diogelwch y systemau deintyddol sydd wedi’u sefydlu.
  • Cyngor a chymorth er mwyn monitro a gwerthuso rhaglenni gwasanaethau iechyd y geg a deintyddol.
  • Hyfforddiant mewn Arbenigo mewn Iechyd Deintyddol Cyhoeddus.
  • Cyngor a chymorth ar ymchwilio a dysgu mewn meysydd sy’n ymwneud â rhaglenni iechyd deintyddol cyhoeddus.