Neidio i'r prif gynnwy

Datblygiad a Chynnydd Gweithwyr

Nid yw pawb ar draws y gymdeithas yn cael yr un cyfleoedd i gyrchu gwaith teg ac i ddatblygu sgiliau newydd a symud ymlaen yn eu gweithle. Mae cefnogi gweithwyr i ddysgu a gwneud cynnydd yn eu galluogi i ddod yn fwy bodlon, sy'n cael effaith gadarnhaol ar eu llesiant seicolegol. Dangoswyd bod pobl sy'n dal i ddysgu:

  • Yn cael mwy o foddhad ac yn teimlo’n fwy optimistaidd
  • Yn dweud bod ganddynt lesiant gwell, mwy o allu i ymdopi â straen, mwy o hunan-barch, gobaith a phwrpas
  • Yn fwy tebygol o ryngweithio â phobl eraill, sy'n helpu i feithrin a chryfhau perthnasoedd gwaith a pherthnasoedd cymdeithasol

Yn ogystal, gall datblygu eich gweithlu a’u cefnogi i symud ymlaen gael effaith gadarnhaol ar eich sefydliad:

  • Mae gweithlu mwy amrywiol a medrus yn gwella’r broses o ddatblygu syniadau a mewnwelediadau newydd
  • Mae mwy o ymgysylltu â gweithwyr yn creu’r amgylchedd ar gyfer rhoi syniadau newydd ar waith
  • Mae amgylchedd diogel a chadarnhaol yn golygu bod gweithwyr yn fwy tebygol o 'fynd yr ail filltir'.

Mae'r rhain i gyd wedi'u profi i fod yn ffactorau allweddol sy’n sail i berfformiad, arloesi a chynhyrchiant gwell yn y gweithle.

Mae'r dudalen we hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Bydd rhagor o wybodaeth, gan gynnwys canllawiau ymarferol, adnoddau a chyfeirio at wasanaethau, yn dod yn fuan.