Neidio i'r prif gynnwy

Gwaith Teg ar gyfer Iechyd, Llesiant a Thegwch

Mae gwaith yn bwysig i'n hiechyd a'n llesiant. Yn ei dro, mae bod yn iach yn cefnogi gwaith a'r economi. Fodd bynnag, gall gwaith o ansawdd gwael fod yn niweidiol i iechyd.  Mae gwaith sy'n 'deg' yn bwysig ar gyfer hybu iechyd a llesiant. Gwaith teg yw lle mae gweithwyr “yn cael eu gwobrwyo, yn cael eu clywed ac yn cael eu cynrychioli’n deg, bod ganddynt sicrwydd a'u bod yn gallu dod yn eu blaen mewn amgylchedd iach a chynhwysol, lle mae hawliau’n cael eu parchu” (Gwaith Teg Cymru, Adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg 2019).

Mae bod yn gyflogwr gwaith teg yn daith barhaus. Gall tîm Cymru Iach ar Waith roi cyngor ac arweiniad i gyflogwyr o bob maint ledled Cymru ynghylch beth mae gwaith teg yn ei olygu a sut i gryfhau eu hymagwedd at waith teg.  Drwy wneud hyn gallwn gyfrannu at Gymru fwy cyfartal, ffyniannus, cynaliadwy a gwyrddach.

Yn ogystal, mae ein cydweithwyr yn Uned Penderfynyddion Ehangach Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda chymorth gan arbenigwyr, wedi cynhyrchu adnoddau i helpu partneriaethau rhanbarthol a chyflogwyr i ddeall y camau y gallant eu cymryd i gynyddu cyfranogiad mewn gwaith teg. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.