Ar draws gwledydd y DU mae offer tebyg i Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd Cymru, dim un sydd yn gwbl gymaradwy.
Yn Lloegr, mae Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd (PHOF) yn cynnwys pedwar maes a chaiff ei greu gan y Swyddfa ar gyfer Gwella Iechyd a Gwahaniaethau. Mae'r meysydd sydd yn creu PHOF Lloegr yn cynnwys penderfynyddion ehangach, gwella iechyd, diogelu iechyd a gofal iechyd a marwolaeth cyn pryd. Mae bron 200 o ddangosyddion yn poblogi'r meysydd, y rhan fwyaf ohonynt, ond nid y cyfan, yn wahanol i'r rheiny a gyflwynir yn y fersiwn Cymraeg.
Nid yw Gogledd Iwerddon yn creu Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd. Fodd bynnag, maent wedi datblygu strategaeth Iechyd y Cyhoedd o'r enw ‘Gwneud Bywyd yn Well fframwaith strategol system gyfan ar gyfer Iechyd y Cyhoedd’. Rhennir y strategaeth yn chwe thema, yn cynnwys ‘rhoi'r dechrau gorau i bob plentyn, arfogi trwy gydol bywyd, grymuso byw'n iach, creu'r amodau, grymuso cymunedau a datblygu cydweithredu.
Nid yw'r Alban yn creu Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd, ond mae Iechyd y Cyhoedd yr Alban a'r cyrff oedd yn ei ragflaenu wedi mabwysiadu dulliau cynllunio canlyniadau ar draws polisi cenedlaethol ac yn hynny o beth maent wedi creu Fframwaith Perfformiad Cenedlaethol a fframwaith iechyd, llesiant a chanlyniadau Cenedlaethol, y ddau yn cynnwys dangosyddion canlyniadau iechyd y cyhoedd.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid o dimau iechyd y cyhoedd lleol a Llywodraeth Cymru i greu'r offeryn adrodd hwn. Wedi ei ddatblygu mewn ffordd ystwyth, rydym yn cyfarfod â'n rhanddeiliaid yn rheolaidd i gytuno sut mae'r offeryn adrodd yn edrych, yn cael ei lywio a'r ffordd y mae dangosyddion yn cael eu torri i lawr.
Rydym bob amser yn ceisio gwella'r offeryn adrodd hwn, ac felly gellir ebostio unrhyw adborth i (ychwanegwch ebost) neu ei anfon trwy ein holiadur ar-lein.